Draig i guddio Jac yr Undeb

Trwydded
Image caption Faint o bobl fydd yn rhoi sticer y Ddraig Goch ar eu trwyddedau gyrru newydd?

Roedd yna gryn aniddigrwydd yr adeg yma'r llynedd ar ôl i lywodraeth y DU gyhoeddi bwriad i osod baner Jac yr Undeb ar drwyddedau gyrru newydd fyddai'n cael eu prosesu.

Er bod nifer o yrwyr Cymru wedi ymgyrchu yn erbyn y syniad, daeth y trwyddedau newydd i fodolaeth ar 6 Gorffennaf 2015. Mae'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr yn dweud bod ychwanegu'r faner yn "cryfhau'r teimlad o undod cenedlaethol".

Ond rŵan mae gwasg Y Lolfa wedi penderfynu mynd â'r brotest gam ymhellach trwy gyhoeddi sticeri'r Ddraig Goch i yrwyr eu gosod ar eu trwyddedau newydd i guddio Jac yr Undeb.

Meddai Fflur Arwel, y pennaeth marchnata: "Ry'n yn credu ei fod yn hollol annheg fod Prydeindod yn cael ei orfodi arnom yn y ffordd hyn. Does gan bobl ddim dewis i ddatgan eu cenedligrwydd na dangos eu balchder o fod yn Gymry."

Mae'n bwnc sy'n hollti barn. Hon oedd y drafodaeth ar Cymru Fyw pan gafodd deiseb yn erbyn y faner ei chyflwyno i'r Cynulliad ym mis Ionawr 2015:

YN ERBYN

Gwenith Owen oedd trefnydd y ddeiseb yn gwrthwynebu'r cynlluniau. Roedd dros 3,000 wedi ei llofnodi. Yma mae hi'n egluro pam ei bod hi'n gwrthwynebu'r datblygiad:

'Ym mol y morfil'

Roedd gan John Bwlchllan stori dda am Jona a'r morfil. Wrth i'r morfil lyncu Jona mae'n dweud wrtho, "Bellach y' ni'n un. A myfi yw'r un." Dyna yw Prydeindod. Nid partneriaeth mohono ond ewyllys un wlad a orfodwyd trwy drais ar dair arall.

Nid yw Prydeindod wedi bod o fudd i Gymru. Ry' ni'n dioddef o salwch meddwl erbyn hyn, salwch sy'n codi arnom ofn bod yn weledig ac ofn cael ein gadael.

Mae ofn gweithredu arnom ac ofn sefyll ar ein traed ein hunain gan i ni gredu'r hen ystrydeb, ein bod yn rhy fach ac yn rhy dlawd.

Prydeiniwyd oddi wrthym ein hadnoddau a'n gadael i fyw ar gardod gwlad. Credwn fod ein hiaith yn dda i ddim a'n diwylliant ond yn werth rhywbeth os yw'n efelychu'r hon a berthyn i'n meistri ymerodrol.

Image caption Mae sawl gyrrwr o Gymru wedi derbyn trwydded newydd tebyg i hon gyda baner Jac yr Undeb arni hi

Yn y pen draw, mae'r sawl sy'n gwrthod hunaniaeth Brydeinig yn gwrthod gorthrwm cenedlaetholdeb Prydeinig. Mae'n gwrthod antur wladychol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r hiliaeth oedd yn sail iddo.

Mae'n gwrthod ffawd y sawl a gafodd ei wladychu, sef gwasanaethu gweledigaeth ei ormeswr, a gormesu eraill yn eu tro.

Mae 'na honiadau fod Jac yr Undeb yn uno pawb. Yma yng Nghymru fe all baner Cymru wneud yr un gwaith. Gallwch fod yn Gymro neu'n Gymraes beth bynnag eich iaith, lliw a chredo.

Nid oes yn rhaid wrth faner y Jac er mwyn bod yn gyfaill i'r lleill o wledydd Prydain nac i wledydd eraill y byd. Ni all Prydain neilltuo iddi hi ei hun werthoedd yr ydym i gyd yn gobeithio eu coleddu chwaith.

Achos plwyfol yw hwn yn y pen draw, ymdrech gan y Ceidwadwyr i apelio at bleidleiswyr de-ddwyrain Lloegr, ac i atal y llif tuag at UKIP. Mae gosod y faner ar ein trwyddedi yn un weithred ymysg y cant a'r mil sy'n ein bychanu.

Nid oes yna na ddu nac aur na gwyrdd na thafod na chwt ar faner Jac yr Undeb. Cred yw Prydeindod ac mae'n bryd i ni droi'n anghredinwyr. Rwy'n benderfynol o gael y morfil 'na i'n 'hwdu ni'n 'ôl.

Image caption Baner yr Undeb Ewropeaidd oedd ar y trwyddedau gyrru tan yn ddiweddar

O BLAID

Mae Tom McCall, sy'n wreiddiol o Gaerfyrddin, bellach yn byw ac yn gweithio yn Llundain. Mae ganddo farn gwbl wahanol ar sefyllfa'r drwydded:

Hunaniaeth drwy iaith, nid baner

Er gwaetha' ymdrech cenedlaetholwyr yr Alban, mae gwledydd Prydain dal mewn Undeb. Yng Nghymru ma'r chwant am annibyniaeth erioed wedi bod yn is, gyda dim ond 3% yn cefnogi gadael gweddill y wlad.

Mae'r cenedlaetholdeb anwybodus hyn yn mynd at ganol y ddadl dros gael baner yr Undeb ar y drwydded yrru. Rydyn ni'n byw mewn gwlad sy'n perthyn i bob cwr o'n hynys ac mae cael baner yr Undeb a'r geiriau yn Saesneg a Chymraeg yn symbolaidd o hyn a rhywbeth mae'r rhan fwyaf o bobl Cymru yn cefnogi.

Does 'na ddim cynllwyn dirgel tu ôl rhoi'r faner ar y drwydded. Mae'r faner yn dangos y wlad lle mae'r drwydded wedi'i chreu. Yn gyfreithiol, Prydain sy'n creu'r trwyddedau nid y llywodraethau yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Wrth gwrs, ar y foment, dim ond un faner sydd ar ein trwydded yrru, un yr Undeb Ewropeaidd. Does neb wedi dechrau deiseb, wedi protestio neu ysgrifennu erthygl am hyn.

Pam? Ond a yw Brwsel wedi gwneud union yr un peth ac y mae 'San Steffan' yn cael i gyhuddo o wneud?

Dim ond 6,500 sydd wedi llofnodi'r ddeiseb i wrthwynebu baner yr Undeb, llai na sydd yn gofyn i blant ysgol Cymru cael mynd ar wyliau yng nghanol amser tymor (14,980).

Ydi'r drwydded newydd yn ymosodiad ar ein Cymreictod? Na, trwy gadw'r Gymraeg ar ein trwydded rydyn ni'n dangos ein hunaniaeth a'n balchder i fod yng Nghymru ond eto gyda baner yr Undeb yn dangos ein bod yn rhan o Brydain.

Beth yw eich barn chi? Ydych chi'n cytuno gyda Gwenith? Neu oes gan Tom ddadl gref?

E-bostwich cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch trwy ein cyfrif Twitter @BBCCymruFyw neu ein tudalen Facebook.

Image copyright Nigel Davies
Image caption Mae Asiantaeth Drwyddedu'r DVLA yn Abertawe wedi prosesu sael trwydded gyda baner Jac yr Undeb arni ers 6 Gorffennaf 2015