Crabb: Disgwyl araith i drafod dyfodol y DU yn yr UE

crabb

Mae Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb yn credu y byddai parhau yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd (UE) o les i'r Deyrnas Unedig os yw'r Prif Weinidog yn llwyddo i ail-drafod ein perthynas â Brwsel.

Mewn araith i Glwb Busnes Caerdydd ddydd Iau, mae disgwyl y bydd Mr Crabb yn pwysleisio'r pwysigrwydd o sicrhau newidiadau yn y berthynas achos nad yw'n "aelod o glwb cefnogwyr" yr Undeb.

Fe fydd e'n ychwanegu bod busnesau ar draws Prydain a Chymru yn "cydnabod nad yw'r sefyllfa bresennol yn ddigon da."

Mae yna gryn ddyfalu bod David Cameron yn bwriadu cynnal refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r UE ar 23ain o Fehefin os yw e'n llwyddo i gael cytundeb ar y newidiadau yn ystod uwchgynhadledd yr Undeb fis Chwefror.

Mae disgwyl y bydd Mr Crabb yn dweud: "Mae yna ragdybiaeth, os ydych chi'n wleidydd yng Nghymru, mae'n rhaid eich bod chi'n aelod o glwb cefnogwyr yr UE. Dydw i ddim. Ac rwy'n gwrthod y syniad y dylai fod yn erthygl ffydd. Mae'n rhaid i'r achos dros Gymru'n aros yn rhan o'r UE gael ei hennill ar ddadleuon sy'n fwy cadarn."

Fe fydd e'n dweud ei bod yn "rhan annatod o fod yn Geidwadwr i fod yn wyliadwrus o lywodraethau mawr a busneslyd", sy'n esbonio'r elfen Ewrosgetpaidd y tu fewn i'r blaid.

Y Tir canol

Ond fe fydd e'n dweud y bydd y ddadl dros aros yn rhan o'r UE yn cael ei hennill yn y tir canol.

"Mae'r tir canol yn lle egwyddorol a rhesymol," bydd Mr Crabb yn dweud.

"Os bydd proses y prif weinidog o ail-drafod yn un llwyddiannus a'i fod yn sicrhau'r newidiadau mae e am weld, yna dwi'n credu y byddai o les i'r Deyrnas Unedig petaen ni'n aros yn rhan o Undeb Ewropeaidd diwygiedig."

Mae Ysgrifennydd Cymru wedi dweud yn y gorffennol bod busnesau Cymreig yn elwa'n arw o fod yn rhan o'r UE.

Ddoe, fe ysgrifennodd arweinwyr y pedair prif blaid yn y Cynulliad at David Cameron i wrthwynebu unrhyw gynlluniau i gynnal y refferendwm Ewropeaidd ym mis Mehefin, yn dilyn etholiad y Cynulliad ar 5 Mai.

Gallai cynnal y ddwy bleidlais mor agos at ei gilydd ddrysu'r etholwyr, meddai Llafur, y Ceidwadwyr, Plaid Cymru, a'r Democratiaid Rhyddfrydol.