Merched ar y cyrion?

Katie Gramich Image copyright Andrew Jeffery
Image caption Mae'r Athro Katie Gramich yn un o'r siaradwyr yng nghynhadledd Y Gymraes a'i Llên ddydd Sadwrn

Dri deg mlynedd ers cyhoeddi cyfres o ysgrifau arloesol am rôl merched mewn llenyddiaeth yn Y Traethodydd, yr Athro Katie Gramich sy'n ateb y cwestiwn a oes dal angen trin a thrafod llenyddiaeth merched fel rhywbeth ar wahân heddiw?


Clod a chydnabyddiaeth

Llynedd, cafodd Coron yr Eisteddfod Genedlaethol ei hennill gan ferch, Manon Rhys, a oedd eisoes yn awdures adnabyddus, un sydd wedi derbyn canmoliaeth deilwng am ei nofelau a'i straeon byrion beiddgar.

Roedd gweld Manon yn gwisgo'r Goron yn gwneud imi sylweddoli pa mor llwyddiannus mae merched wedi bod yn y ganrif hon ym mhrif gystadlaethau'r Eisteddfod.

Yn y 15 mlynedd diwethaf mae awduron benywaidd fel Manon Rhys, Christine James, Mererid Hopwood, Gwyneth Lewis, Lleucu Roberts, Siân Melangell Dafydd, ac eraill, wedi gweld llwyddiant yng nghystadlaethau'r Goron, y Gadair, a'r Fedal Rhyddiaith.

Mae mwy o ferched wedi ennill y Goron neu'r Gadair yn yr Eisteddfod yn y 15 mlynedd diwethaf nag yn ystod y ganrif flaenorol.

Ac yn ogystal, mae ambell i awdur benywaidd arall, fel Menna Elfyn, sydd wedi mynegi tipyn o amheuaeth ynglŷn ag elfen gystadleuol yr Eisteddfod, wedi ennill clod a chydnabyddiaeth - o'r diwedd - am swmp a sylwedd ei gwaith arloesol fel bardd ac fel lladmerydd ffeminyddol.

Y 'brif ffrwd'

Image caption Gillian Clarke yw Bardd Cenedlaethol Cymru

Yng Nghymru, mae gennym fardd cenedlaethol benywaidd, Gillian Clarke, i wasanaethu ei chenedl ochr yn ochr gyda'i ffrind mynwesol, Carol Ann Duffy, bardd llawryfog Lloegr.

Gellir dadlau, felly, bod merched ein llên wedi cyrraedd y lan o'r diwedd, ar ôl taith hir a chythryblus.

Mae gwaith ein hawduresau bellach yn cael sylw a chlod haeddiannol; mae'n cael ei ddarllen, ei ddysgu, a'i astudio mewn ysgolion a phrifysgolion; mae wedi ymuno â'r 'brif ffrwd' bondigrybwyll a oedd yn arfer cynnwys awduron gwrywaidd yn unig.

Cymru ar ei hôl hi

Kathryn Curtis, Marged Haycock, Elin ap Hywel, a Ceridwen Lloyd-Morgan oedd yn gyfrifol am rifyn Y Traethodydd oedd yn cynnwys ysgrifau arloesol am rôl merched mewn llenyddiaeth, a mae hi'n bleser cael cydnabod pa mor ddylanwadol oedd eu gwaith nhw ar y pryd.

Roedd Cymru yn sicr ar ei hôl hi o safbwynt beirniadaeth ffeminyddol: roedd y gwaith sylfaenol o ddarganfod a chofnodi hanes llên menywod Cymru yn dal heb ei wneud, ond roedd erthyglau'r pedair yn nhudalennau'r Traethodydd yn gosod sylfaen ar gyfer ni beirniaid ffeminyddol y dyfodol.

Mae llawer iawn wedi ei gyflawni ers 1986. Er hynny, nid ydym wedi sefydlu Iwtopia gydraddol yng Nghymru, nac yn unman arall.

Ennill tir ond heb gyrraedd y lan

Mae llenyddiaeth gyfoes gan ferched Cymru wedi ennill ei thir ond, yn fy marn i, nid yw'r gydnabyddiaeth hon wedi effeithio rhyw lawer ar y modd yr ydym yn olrhain hanes llenyddiaeth Cymru.

Mae'n anodd iawn newid rhagdybiaethau ynglŷn â pha awduron a pha weithiau llenyddol sy'n perthyn i'r casgliad safonol o lenyddiaeth a pha rai sydd raid eu hepgor.

Fel rwy'n dweud wrth fy myfyrwragedd, sy'n credu eu bod yn byw mewn byd ôl-ffeminyddol, mae'n bwysig cofio pa mor ddiweddar yw'r syniad bod cynnyrch artistig menywod yn gallu bod o'r safon uchaf.

Er mwyn sicrhau bod llenyddiaeth merched yn cael sylw digonol, dwi wedi sylweddoli bod yn rhaid dysgu modiwlau penodol ar lên merched. Fel arall, mae 'na dueddiad i awduron benywaidd cael eu gwthio i'r cyrion unwaith eto.

Mae Cynhadledd Y Gymraes a'i Llên 1986-2016 yn cael ei chynnal yn Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Dydd Sadwrn, 30 Ionawr 2016, dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.