Robert Earnshaw yn ymddeol o bêl-droed

Robert Earnshaw Image copyright PA

Mae cyn-ymosodwr Cymru, Robert Earnshaw wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o bêl-droed.

Fe wnaeth yr ymosodwr ennill 59 o gapiau rhyngwladol, gan sgorio 16 gôl i Gymru.

Bydd yn parhau gyda'i glwb presennol - y Vancouver Whitecaps yng nghynghrair yr MLS yn yr Unol Daleithiau - fel hyfforddwr ymosodol.

Fe wnaeth Earnshaw gyhoeddi ym mis Mawrth 2015 ei fod yn ymddeol o'r gêm ryngwladol.

Bydd ei yrfa yn dod i ben wedi iddo sgorio 220 o goliau mewn 520 o gemau i glybiau yn Lloegr, Yr Alban, Israel, Canada a'r Unol Daleithiau dros 18 mlynedd.

"Rwy'n gynhyrfus ac yn barod i symud 'mlaen i'r cyfnod nesaf yn fy mywyd," meddai.

"Roedd hi'n bwysig i mi i ymddeol fel chwaraewr ar fy nhermau fy hun, ac fe wnaeth y cyfle i ymuno â staff hyfforddi Vancouver gadarnhau fy mhenderfyniad.

"Rwy'n ddiolchgar iawn i'r holl bobl sydd wedi fy nghefnogi dros y blynyddoedd - fy nheulu, fy hyfforddwyr, cyd-chwaraewyr, staff cefnogol ac wrth gwrs, y cefnogwyr."