Siân Davies
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Balakrishnan: Galw am gwest newydd i farwolaeth Cymraes

29 Ionawr 2016 Diweddarwyd 21:02 GMT

Mae galwad am gwest newydd i farwolaeth Siân Davies o Dregaron, oedd yn aelod o gwlt comiwnyddol yn Llundain am ddau ddegawd.

Wrth i arweinydd y cwlt - Aravindan Balakrishnan - gael ei ddedfrydu i 23 blynedd o garchar am dreisio a chaethiwo, mae cyfnither y Gymraes yn mynnu atebion ynglŷn â'r hyn ddigwyddodd iddi.

Cafodd Balakrishnan a Ms Davies blentyn gyda'i gilydd, ac mae Katy Morgan-Davies nawr yn awyddus i ymweld â Cheredigion er mwyn dysgu mwy am ei theulu. Sara Gibson sydd â'r hanes.