Difrod gwynt i arwydd yn cau'r M4 ger Casnewydd

M4 Image copyright Traffig Cymru

Mae'r M4 wedi cael ei gau i gyfeiriad y gorllewin ger Casnewydd wedi i arwydd ddod yn rhydd mewn gwyntoedd cryfion.

Mae'r ffordd ar gau rhwng cyffyrdd 24 a 28.

Dywedodd swyddogion ei fod wedi arwain at draffig araf iawn yn yr ardal, wrth i yrwyr orfod dod oddi ar y draffordd.

Mae un lôn hefyd ar gau i gyfeiriad y dwyrain rhwng cyffyrdd 29 a 28 yn dilyn gwrthdrawiad rhwng nifer o gerbydau.