Trywanu: Arestio dau ddyn

Castlefields Image copyright Google Maps
Image caption Cafwyd hyd i'r dyn oedd wedi ei drywanu yn ardal Castlefields, Croesoswallt

Mae dau ddyn o Gymru wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynllwynio i lofruddio dyn yn Sir Amwythig.

Dywed yr heddlu eu bod wedi dod o hyd i ddyn wedi ei drywanu yng Nghroesoswallt tua 20:00 ar 23 Ionawr.

Mae dyn 18 oed o Wrecsam a dyn 51 o'r Trallwng yn cael eu holi yng ngorsaf yr heddlu.

Mae trydydd dyn, Luke Adam Cross, 22, o ganolbarth Lloegr wedi ei gyhuddo o gynllwynio i geisio llofruddio.

Mae hefyd wedi ei gyhuddo o fygwth lladd, a bygwth gwneud niwed troseddol. Fe fydd o'n ymddangos gerbron Llys y Goron Amwythig ddydd Llun.