Benthyciad £3m yn help i greu 120 o swyddi

Quinn Radiators Image copyright Google

Fe fydd benthyciad o £3m yn help i greu 120 o swyddi a diogelu 290 o swyddi eraill mewn cwmni yng Nghasnewydd.

Bydd yr arian yn gymorth i gwmni Quinn Radiators ehangu eu busnes, sydd wedi ei leoli ym Mharc Imperial yn y ddinas.

Mae gan y ganolfan ddwy linell gynhyrchu, sydd a'r gallu i gynhyrchu tua 3.5 miliwn o wresogyddion domestig y flwyddyn.

Mae'r benthyciad yn dod gan Llywodraeth Cymru, ac fe ddywedodd y gweinidog dros yr economi, Edwina Hart fod y cwmni yn "gyflogwr lleol pwysig".