Undebau'n pryderu am 'brinder prifathrawon'

Athrawes Image copyright Thinkstock

Mae'n rhaid i benaethiaid gael cynnig rhagor o gefnogaeth os am daclo'r problemau recriwtio sy'n bodoli yn y proffesiwn, medd undeb athrawon.

Mae gwaith ymchwil ar ran BBC Cymru yn awgrymu bod 105 o ysgolion ar draws Cymru heb bennaeth parhaol ar hyn o bryd.

Yn ôl undebau athrawon, mae cynnydd mewn llwyth gwaith a phwysau ar brifathrawon yn golygu bod llai o bobl yn awyddus i gymryd y swyddi.

Dywed Llywodraeth Cymru "nad oes yna argyfwng recriwtio prifathrawon yng Nghymru".

Ffigyrau

Fe gysylltodd rhaglen Newyddion 9 BBC Cymru â phob awdurdod lleol i holi faint o ysgolion oedd heb bennaeth parhaol.

Roedd 18 o gynghorau wedi cyflwyno'r wybodaeth. Doedd Caerdydd, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot nag Ynys Môn ddim wedi cyflwyno ffigyrau neu fanylu ar eu hymatebion.

O'r 1,723 ysgol yn yr ardaloedd lle cafwyd ymateb, roedd 105 heb bennaeth parhaol - 8.2%.

Yng Nghonwy oedd y ganran uchaf, sef 23.8%. Abertawe oedd â'r ganran isaf, 2.1%.

'Gormod o ymyrryd'

Yn ôl Julian Jones, o undeb NAHT Cymru, mae'r pwysau ar brifathrawon yn rhwystro athrawon ifanc rhag gwneud cais am swyddi penaethiaid.

"Mae'n argyfwng sydd wedi bod ar y gorwel ers meitin," meddai.

"Dwi'n credu bod angen ailedrych ar sut maen nhw'n gweithredu ysgolion. Dydi ysgol ddim yn gallu bod yn ateb i'r holl ofynion.

"Mae gormod o ymyrryd wedi bod mewn bywyd ysgol, gormod o ymyrryd ar y cwricwlwm.

"Mae'r newidiadau mae ysgolion wedi gorfod gwneud drwy'r penaethiaid dros yr 20 mlynedd diwethaf yn ddiddiwedd.

Mae yna fai ar bob llywodraeth ac mae Llywodraeth Cymru'r un mor gyfrifol ag unrhyw lywodraeth arall. Dwi'n teimlo ambell waith bod y broses ddeialog ddim yn bodoli."

'Rôl ynysig'

Dywedodd Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol undeb UCAC: "Mae'r rôl yn gallu bod yn un ynysig ac mae angen gwell cefnogaeth nag sydd ar gael i benaethiaid yn eu rôl.

"Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n edrych ar ffyrdd o leihau llwyth gwaith. Os nad ydyn ni'n mynd i'r afael â'r llwyth gwaith hynny, fyddwn ni ddim yn gallu datrys y problemau hyn o ran recriwtio penaethiaid."

Dywedodd Barry Rees, Cyfarwyddwr Strategol dros Ddysgu a Phartneriaethau Cyngor Ceredigion: "Ar hyn o bryd mae e'n wirioneddol bryderus.

Os na newidith pethe byth pethe'n mynd yn agos iawn at fod yn grisis."

Image caption Yn ôl Julian Jones mae'r pwysau ar brifathrawon yn rhwystro athrawon rhag gwneud cais am swyddi

Dim ymgeiswyr

Un ysgol sydd wedi bod heb bennaeth parhaol ers dechrau'r flwyddyn academaidd ydy Ysgol Gynradd Llannon, Ceredigion.

Bu'n rhaid iddyn nhw hysbysebu'r swydd am y trydydd tro, gyda neb wedi gwneud cais ar ôl y ddau hysbyseb cyntaf.

Yn y cyfamser, mae pennaeth oedd wedi ymddeol wedi cael cais i wneud y swydd dros dro.

Dywedodd cadeirydd y llywodraethwyr, Lodwick Lloyd: "Mae'n sefyllfa ddifrifol cyn belled â'n bod ni yn y cwestiwn.

"Rydyn ni angen pennaeth, rydyn ni angen rhywun yma ar frys. Mae unrhyw ysgol heb bennaeth fel cwch heb gapten."

'Dim argyfwng'

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg yng Nghymru'n dweud fod mwy o athrawon yn ennill y cymhwyster angenrheidiol i fod yn bennaeth, sy'n golygu y bydd nifer y bobl gymwys yn cynyddu dros amser.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Does yna ddim 'argyfwng' o ran recriwtio prifathrawon yng Nghymru.

"Mae tua 800 o bobl gofrestredig sydd â'r Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth ac mae cynnydd yn nifer y rhai sy'n ceisio am y cymhwyster eleni."

"Ond rydym yn cydnabod bod prinder mewn rhai ardaloedd, gyda swyddi'n wag oherwydd ad-drefnu ysgolion lleol sydd naill ai ar fin digwydd neu wedi dechrau'n barod.

"Does dim dwywaith fod hyn yn amser heriol i'r system addysg ond mae'n bwysig cofio fod symud tuag at y cwricwlwm newydd wedi dod yn sgil adroddiad Graham Donaldson, ac roedd y proffesiwn wedi helpu i gyfrannu at hwnnw."

Straeon perthnasol