Pasio Mesur Amgylchedd newydd i Gymru

Ailgylchu
Image caption Mae'r mesur yn cyflwyno trefniadau er mwyn ceisio cynyddu ailgylchu

Mae Aelodau Cynulliad yn unfrydol wedi pleidleisio o blaid mesur i wella'r ffordd mae adnoddau naturiol Cymru yn cael eu rheoli - a mynd i'r afael â newid hinsawdd.

Bydd Mesur Amgylchedd (Cymru) yn gorfodi'r corff sy'n gyfrifol am dirweddau a bywyd gwyllt Cymru i sicrhau bod cynaliadwyedd wrth galon eu holl benderfyniadau.

A bydd yn arwain at adroddiad am gyflwr adnoddau naturiol Cymru a pholisi cenedlaethol newydd fydd yn amlinellu'r blaenoriaethau ar gyfer pob rhan o'r wlad.

Hefyd bydd galw ar gyrff cyhoeddus fel cynghorau lleol i ddod o hyd i ffyrdd o ddiogelu byd natur.

Dywedodd Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, y byddai targedau newid hinsawdd statudol yn cyflymu'r datblygiadau i gyrraedd prif dargedau Llywodraeth Cymru ac y byddai'n helpu gwrthsefyll effeithiau'r hinsawdd megis tymheredd eithafol a llifogydd.

'Diwrnod gwych'

"Mae hwn yn ddiwrnod gwych i Gymru, a bydd y mesur yn sicrhau bod rheoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy yn ystyriaeth sy'n greiddiol i bob penderfyniad sy'n cael ei wneud yn y dyfodol.

"Dwi'n falch mai dyma'r mesur cyntaf yn y DU - a chyn belled ac y gwyddom yn yr UE - i sefydlu y dull ecosystem a fabwysiadwyd gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol yn ddeddfwriaeth ddomestig.

"Mae hyn yn cydnabod swyddogaeth hollbwysig adnoddau naturiol a'u gwasanaethau i economi, cymunedau ac amgylchedd Cymru."

Dywedodd Emyr Roberts, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru: "Mae pasio Bil yr Amgylchedd yn ein rhoi mewn sefyllfa well i allu rheoli ein hadnoddau natruiol mewn ffordd sy'n helpu inni fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd, colli bioamrywiaeth a rheoli tir yn gynaliadwy.

"Bydd y mesur yn ogystal â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'r Ddeddf Gynllunio, yn sicrhau bod datblygu cynaliadwy yn greiddiol i lunio penderfyniadau ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector, fydd yn ein galluogi i gydnabod yn llawn y cyfraniad y mae ein hadnoddau naturiol yn ei wneud i drechu tlodi, anghydraddoldebau iechyd, creu mwy o swyddi ac economi wyrddach."

'Cam mawr ymlaen'

Mae'r mesur yn gosod targed i Gymru ostwng lefel allyriadau carbon o leiaf 80% erbyn 2050.

Dywedodd Haf Elgar, Cadeirydd Clymblaid Atal Hinsawdd Cymru, fod fframwaith cyfreithiol ar gyfer torri allyriadau carbon yn "gam mawr".

"Ond dwi'n siomedig iawn nad yw'r targed ar gyfer 2050 yn uwch," meddai, "yn enwedig yn sgil cytundeb Paris fis Rhagfyr - yn hwnnw roedd cyfeiriadau at gadw cynhesu byd eang at 1.5C, a dydw i ddim yn teimlo y bydd y targed yn y ddeddf yn ein helpu i gyrraedd mor bell â hynny, yn anffodus."

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw am Gymru sy'n garbon niwtral erbyn 2050.

Image caption Yn ôl Annie Smith, mae cefnogaeth i'r ddeddf ymysg grwpiau amgylcheddol

Ailgylchu

Mae'r mesur yn cyflwyno trefniadau newydd ar gyfer rheoli gwastraff er mwyn ceisio cynyddu lefelau ailgylchu busnesau.

Yn y cyfamser, bydd gan weinidogion Llywodraeth Cymru'r pŵer i newid y cynllun bagiau plastig er mwyn cynnwys bagiau am oes a sicrhau bod yr arian sy'n cael ei godi yn mynd at achosion da.

Dywedodd Annie Smith o Gyswllt Amgylcheddol Cymru fod cefnogaeth i'r mesur yn gyffredinol ymysg grwpiau amgylcheddol.

"Mae'n rhoi platfform gwych i ni ddechrau pethau - ond nawr mae angen i bethau go iawn ddigwydd i'n helpu ni gyrraedd lle gwell," meddai.

"Mae hynny'n cynnwys arian sydd wedi'i dargedu at yr amgylchedd fel ein bod ni'n medru gweithredu gwelliannau ar gyfer byd natur a phobl hefyd."