Cyfiawnder i'r Cymry

Paul Rutherford a'i ŵyr, Warren Todd ar ôl ennill eu hapêl yn erbyn y 'dreth stafell wely'
Image caption Paul Rutherford a'i ŵyr, Warren Todd ar ôl ennill eu hapêl yn erbyn y 'dreth stafell wely'

Mae'n un o bolisïau mwyaf dadleuol Llywodraeth y DU, ond ar 27 Ionawr roedd yna fuddugoliaeth gyfreithiol i deulu o Gymru yn erbyn yr hyn sy'n cael ei galw yn 'dreth stafell wely'.

Cafodd Warren Todd a'i deulu gyngor arbenigol, annibynnol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wrth fynd â'u hachos i'r Llys Apêl.

Bydd Ann Beynon, Comisiynydd Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru ar banel Pawb a'i Farn ar S4C, nos Iau, 4 Chwefror. Mewn erthygl i Cymru Fyw i gyd-fynd gyda'r rhaglen mae'n trafod gwaith y Comisiwn:


Penderfynodd y Llys Apêl yn achos Warren Todd bod y 'dreth stafell wely' yn anghyfreithlon.

Mae'r Comisiwn Cydradoldeb a Hawliau Dynol wedi croesawu'r dyfarniad hwn a phenderfyniad tebyg gan y barnwyr mewn achos gafodd ei ddwyn gan wraig oedd wedi dioddef camdriniaeth ddomestig.

Roedd hi wedi dadlau bod y dreth yn gwahaniaethu'n annheg yn erbyn dioddefwyr o'r fath a'u plant sydd angen ystafelloedd arbennig i ddiogelu eu bywydau rhag bygythiadau.

Wrth groesawu'r penderfyniadau dywedodd Rebecca Hilsenrath, Prifweithredwraig y Comisiwn, fod penderfyniadau fel hyn yn allweddol gan fod colli cartref i berson bregus yn cael effaith ddofn ac yn gallu bod yn beryglus.

Penderfyniadau fel hyn sy'n fy ngwneud yn falch o fod yn Gomisiynydd Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru ac o gael cydweithio gyda phobl fel Rebecca.

Image caption Ann Beynon

Cafodd Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y DU ei sefydlu nôl yn 2006. Cyn hynny roedd comisiynau gwahanol yn edrych ar ôl cydraddoldeb, hil ac anabledd.

Penderfynwyd bod angen dod â gwaith y comisiynau hyn at ei gilydd dan un to er mwyn bod yn fwy effeithiol ac er mwyn cryfhau y pwyslais ar hawliau dynol.

Diau y bu hyn yn bwysig i sicrhau yn 2009 fod y Comisiwn yn cael ei gydnabod yn aelod o rwydwaith rhyngwladol sefydliadau hawliau dynol y byd ac yn derbyn statws A (sef yr uchaf posib) dan Bwyllgor Cydlynu Rhyngwladol cyrff hawliau dynol y byd.

Mae hyn yn rhoi mynediad i'r Comisiwn i Gyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig.

Dan y Ddeddf 2006 rhaid i'r Comisiwn hyrwyddo a chefnogi datblygu cymdeithas sy'n:

•cynorthwyo pobl i gyrraedd eu potensial heb gael eu llesteirio gan ragfarn na gwahaniaethu anghyfreithlon

•parchu ac yn amddiffyn hawliau dynol pob unigolyn

•parchu urddas a gwerth pob unigolyn

•rhoi cyfle cyfartal i bob unigolyn i gyfrannu i gymdeithas

•lle y gall grwpiau gwahanol barchu ei gilydd trwy ddeall a gwerthfawrogi amrywiaeth a chyd-barchu cydraddoldeb a hawliau dynol.

Image caption Mae'r 'dreth stafell wely' wedi achosi gofid i sawl teulu ers iddi hi gael ei chyflwyno

Cafodd maes gorchwyl y Comisiwn ei ehangu ymhellach dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae bellach yn cynnwys:

•Oedran

•Bod yn neu ddod yn berson trawsrywiol

•Bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil

•Bod yn feichiog neu yn rhiant

•Anabledd

•Hil, gan gynnwys lliw, cenedl, hil neu gefndir cenedlaethol

•Crefydd, cred neu ddiffyg cred

•Rhyw neu dueddiadau rhywiol

Mae gan y Comisiwn nifer o bwerau statudol sy'n rhoi grym i'w weithrediadau. Er taw dull gweithredu arferol y Comisiwn yw dylanwadau, cynghori ac annog ymddygiad da, ar brydiau mae'r pwerau hyn yn bwysig, fel y pŵer i ymyrryd mewn achosion llys megis y ddau y mae cyfeiriad atyn nhw yma.

Gall hefyd gynnal ymchwiliadau ar bynciau penodol megis yr ymchwiliad i gamdrin pobl anabl 'O'r Golwg yng Ngolwg Pawb' a ddatgelodd faint o gamdrin pobl anabl, yn arbennig rhai ag anableddau dysgu a salwch meddwl, sy'n digwydd yn y byd sydd ohoni.


Pawb a'i Farn, S4C, nos Iau, 4 Chwefror, 21:30