Ysgol Gymraeg Casnewydd: Gwrthod rhoi caniatâd cynllunio

Delwedd artist o'r ysgol newydd
Image caption Delwedd artist o'r ysgol newydd

Mae cynghorwyr yng Nghasnewydd wedi gwrthod rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg newydd yn y ddinas.

Bu rhybudd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wythnos ddiwethaf bod risg sylweddol o lifogydd ar y safle.

Mewn cyfarfod ddydd Mercher, fe bleidleisiodd pwyllgor cynllunio'r awdurdod yn erbyn y cais.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Dinas Casnewydd y byddai'r gwaith yn dechrau "ar unwaith" i ddod o hyd i safle newydd.

'Ystyried yn fanwl'

Yn ôl y cynllun, byddai safle presennol Ysgol Uwchradd Duffryn yn cael ei rannu, gydag ysgol newydd cyfrwng Cymraeg yn cael ei datblygu ar ran o'r safle.

Er bod y pwyllgor wedi gwrthod y cais, yn ôl pennaeth addysg y cyngor, fe allai'r penderfyniad newid.

Dywedodd bod angen i'r awdurdod ddarparu ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg ac mai'r safle presennol yw'r unig un sydd ar gael.

Yn ôl llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru, mae digwyddiadau diweddar ar draws Cymru yn dangos bod angen "ystyried yn fanwl" unrhyw ddatblygiad mewn mannau lle mae risg o lifogydd.

Ychwanegodd: "Rydym yn cydnabod pwysigrwydd ysgol cyfrwng Cymraeg newydd i Gasnewydd a'r ardaloedd cyfagos.

"Rydym wedi darparu nodyn cyngor technegol i adran gynllunio'r awdurdod er mwyn eu helpu i ddod i benderfyniad ynghylch lleoliad addas ar gyfer y datblygiad newydd."

Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Dinas Casnewydd: "Mae'r cyngor nawr yn trefnu trafodaethau brys gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau cyllid ar gyfer ysgol ar safle arall yn y ddinas, cyn gynted ag y mae un ar gael."

Cynllun

Roedd y cynlluniau gwerth £17m yn cynnwys dau adeilad dysgu tri llawr - un i'r ysgol bresennol ac un i'r un newydd.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) hefyd ei fod yn erbyn y datblygiad oherwydd y risg o lifogydd o Afon Ebwy a bod llanw o Aber Hafren yn rhy uchel.

Yn ôl canllawiau cynllunio Llywodraeth Cymru, dylai unrhyw ddatblygiad fod yn glir o lifogydd y tu hwnt i un bob 100 mlynedd neu "ddigwyddiad newid hinsawdd".

Ond roedd swyddogion CNC yn amcangyfrif bod y risg yn un bob 20 mlynedd, gan rybuddio y gallai llifogydd fod yn ddifrifol ac yn beryglus i blant, pobl a'r gwasanaethau brys.