Yr ifanc a ŵyr? Brynmor a Lloyd Williams

Lloyd a Brynmor Williams yn 2009 pan pedd Lloyd yn sgwad dan 20 Cymru Image copyright Huw Evans Agency

Mewnwr y Gleision a Chymru, Lloyd Williams, a'i dad, y sylwebydd rygbi Brynmor Williams, sydd hefyd wedi chwarae dros ei wlad a thros y Llewod, yw testun nesaf cyfres o erthyglau teuluol BBC Cymru Fyw.

Nhw yw'r unig dad a mab sydd wedi chwarae yn safle'r mewnwr dros Gymru.

Daw Brynmor, 64, yn wreiddiol o ardal Aberteifi yng Ngheredigion ac fe gafodd Lloyd, 26, ei fagu yn y Bontfaen ym Mro Morgannwg gyda'i chwaer fawr Amy, ei frawd iau Tom, sy'n chwarae i'r Scarlets, a'i chwaer fach Molli. Aeth i Ysgol Bro Morgannwg ac mae bellach yn byw yng Nghaerdydd.


Brynmor Williams - 'Anrhydedd mawr'

Ro'n i'n 38 oed ac wedi gorffen chwarae erbyn i Lloyd gael ei eni - wnaeth ei annog i chwarae rygbi ddim croesi fy meddwl ar y pryd.

Yr unig beth oedd yn fwriad gen i oedd ei fod yn gwneud cymaint o chwaraeon ag y galle fe oherwydd ro'n i eisiau rhoi pob cyfle iddo - pêl-droed, rygbi, golff, tenis, criced - er mwyn rhoi'r cyfle iddo wneud ffrindiau a mwynhau ei hunan.

Mae lot o rieni yn ceisio chwarae eu bywydau chwaraeon drwy eu plant ond oedd dim eisiau imi wneud 'na achos o'n i 'di cael digon o lwyddiant fy hunan.

Ond mae'r ffaith fod y ddau grwt - Lloyd yn chwarae i'r Gleision a Tom i'r Scarlets - wedi gwneud yn dda yn rhoi pleser mawr imi er nad oedd yn unrhyw fath o darged. Rwy' jyst yn hapus eu bod nhw'n mwynhau, yn gwneud yn dda ac yn cadw i ddysgu.

'Moment emosiynol'

Os rwbeth roedd gen i fwy o falchder pan enillodd Lloyd ei gap cynta' na phan ges i fy nghap cynta'. Mae llwyddiant eich plant yn bwysicach na'ch llwyddiant chi'ch hunan ac roedd yn foment emosiynol iawn pan gafodd Jayne, y wraig, a finne ei weld e'n camu 'mlaen i gael ei gap a phawb yn tynnu lluniau.

Mae pobl yn g'weud bod e'n whare'n gywir yr un peth ag o'n i yn fy amser.

Ond dwi'n credu mai cyd-ddigwyddiad yw hi ei fod wedi troi mas yn fewnwr hefyd - gymerodd e at y safle pan oedd yn grwt bach ac arhosodd yn y safle 'na hyd heddi.

Roedd hi'n dipyn o sioc pan gafodd ei ddewis i'r garfan yng Nghwpan y Byd achos gath e ei ddewis yn hwyr. Oedd e'n ifanc iawn, 20 oed, a weithiodd e'n galed. Oedd e'n anrhydedd mawr inni.

Fe ddaeth 'mlaen yn erbyn Namibia yn ystod Cwpan y Byd yn Seland Newydd yn 2011 pan o'n i'n westai yn stiwdio sylwebu Radio Cymru. Gath Lloyd ei gais cynta' dros ei wlad wrth bo' fi'n cyrraedd y stiwdio!

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Cic bythgofiadwy Lloyd Williams yn erbyn Lloegr yng Nghwpan y Byd 2015

Ac yna'r gic fach yn Twickenham yng Nghwpan y Byd 2015 - oedd Jayne a fi, Amy, Molli a Tom i gyd yn Twickenham ar y nosweth 'na ac roedd ei weld e'n cyfrannu i'r cais 'na gan Gareth Davies, wel oedd hwnna hefyd yn eiliad hanesyddol ym mywyd y teulu.

Traeth Tresaith

Bob haf pan oedd y plant yn ifanc fe fydden ni'n mynd lawr i'n carafán ar ymyl y traeth yn Tresaith, lle ces i fy magu, a 'na i gyd o nhw'n neud am chwech wythnos, y ddau grwt, oedd cicio pêl ar y traeth a mwynhau gyda phlant eraill.

Achos bod pedwar o blant gyda ni o'dd Jayne a finne yn rhannu'r plant mas yn aml ar ddydd Sadwrn - fydde Jayne yn mynd â'r merched i siopa ac achos mod i'n gweithio gyda Radio Cymru fel sylwebydd bydden i'n mynd â'r bois 'da fi i'r rygbi.

Yn yr amser 'ny roedd y bois yn cael mynd â phêl a chwarae ar y cae ar hanner amser, cyn i'r gêm ddechre ac ar ôl i'r gêm orffen, felly fe gawson nhw'r cyfle yna i wylio rygbi ar y lefel uchaf pan oedden nhw'n ifanc iawn.

Achos mod i 'di gweithio yn y cyfryngau ac astudio'r gêm ers blynydde mawr mae e'n parchu fy nghyngor os oes rhywbeth 'da fi i weud.

Sa i'n gweud bod e'n gwrando ar bopeth ond mae'n eitha' parod i glywed ac wedyn dewis beth mae moyn ei ddefnyddio. Wi'n credu bod e'n meddwl mod i bach yn hen nawr!

Poeni am anafiadau

Rwy' wedi diodde' lot o anafiadau dros y blynyddoedd ac maen nhw yn fy mhoeni i. Mae Lloyd wedi cael 'shoulder reconstruction' ar y ddwy ysgwydd yn barod - ond rwy'n parchu'r ffaith fod yr undebau yn ceisio gwneud y gêm mor saff ac y gallen nhw - mae lot saffach nawr na pan o'n i'n chware.

Mae Jayne yn tueddu i fecso eu bod nhw'n mynd i gael dolur pan mae hi'n gwylio'r bois a wi'n tueddu i fod moyn iddyn nhw chware'n dda.

Ond pan mae rhywun lawr ni'n dau yn poeni wrth gwrs ac eisiau gweld beth yw'r rhif ar y crys ar unwaith, ond allen ni byth â'u stopio nhw rhag chware. Maen nhw'n elwa o lot o bethe eraill sy'n dod allan o'r gêm.

Roedd Lloyd yn gweithio'n galed yn yr ysgol ac yn gwneud yn dda. Mae'n eitha' academic, a lot o amynedd ganddo. Os rwbeth mae e bach yn dawel falle ond mae'n dod mas o'i hunan ar y maes. Mae lot o bobl yn siarad yn uchel am ei ffordd e, mae amser ganddo fe i bawb a mae'n gwrtais yn gyffredinol.

Wi'n credu bod mwy o amynedd gydag e nag o'dd gen i - mae e bach mwy cŵl. Mwy na dim byd arall mae'n gweithio'n galed ofnadw' - ma' hynna wedi creu argraff mawr arnai.


Lloyd Williams: 'Wastad mas yn cicio pêl'

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Gareth Davies a Lloyd Williams yn dathlu'r cais yn Twickenham

Ges i blentyndod hapus iawn. O'n i wastad mas yn chwarae yn y caeau. Dwi erioed wedi bod yn berchen ar PlayStation nac unrhyw beth fel 'na, o'n i wastad mas yn cicio pêl gan bod ni'n byw yn y wlad. Nes i chwarae pob math o chwaraeon o'n i'n gallu. O'dd e'n amser hapus iawn i fi.

'Nath dad ddim gwthio ni mewn i rygbi o gwbl. Pêl-droed ro'n i'n chwarae i ddechre tan o'n i tua 10 oed ac wedyn ddechreuais i chwarae rygbi achos fod fy ffrindie yn yr ysgol wedi dechre chwarae.

'Cyngor gan dad'

Ro'n i tua 17 oed pan nes i sylweddoli beth oedd dad wedi ei wneud gyda'i yrfa achos pan o'n i'n tyfu lan o'n i jyst yn edrych lan ato fe fel unrhyw blentyn arall.

Dyna pryd nes i ddechre fod eisiau mynd ymlaen gyda rygbi a dyna pryd nes i ddechre gofyn cwestiynau i dad am ei yrfa a dysgu mwy.

Image copyright Huw Evans picture agency

Mae e wastad yn dweud yn blaen os yw e'n credu y gallwn i wneud rhywbeth mwy gyda'r gêm, a dwi'n gwrando arno fe.

Wrth gwrs mae'r gêm wedi symud ymlaen a newid ers pan oedd dad yn chwarae ond fe wnâi wastad gymryd cyngor ganddo fe, fel dwi'n neud gydag unrhyw un, achos os yw e'n mynd i fy helpu i chwarae, dwi eisiau gwybod.

Mae chwaraewyr yn fwy o faint heddiw ac mae lot mwy o strwythur yn y gêm nawr i gymharu â pan o'dd dad yn chwarae. Ma' pethe 'di datblygu lot yn y deg mlynedd diwetha' yn enwedig, a'r amddiffyn 'di cryfhau lot ers y 1970au achos fod y gêm 'di mynd yn broffesiynol.

Felly mae'r pethe yna 'di newid yn fawr yn y gêm ond ar y llaw arall mae hi'n dilyn yr un rheolau i ryw raddau a'r nod yw ceisio cael y bêl dros y llinell. Felly mae lot o bethau yn syml o hyd a dyna pam mae cyngor wrth dad wastad yn rywbeth dwi eisiau ei glywed.

Cystadleuol

Fi'n credu bod pwysau wastad wedi bod ar chwaraewyr y tîm cenedlaethol, ac ar lefel clwb, achos mae rygbi yn rhywbeth mor enfawr inni fel gwlad, ond beth sy'n ychwanegu pwysau heddiw ydy bod bechgyn y dyddiau hyn yn cael eu talu. Felly mae 'na swyddogaeth arnoch chi i berfformio gan eich bod chi'n cael eich talu.

Dwi'n cofio'n dda iawn mynd efo dad i'r stadiwm pan oedd e'n sylwebu. Ro'n i a Tom yn edrych ymlaen at yr adeg yna o'r wythnos achos o'n i'n gallu gwylio sêr y cyfnod yn chwarae. Wi'n cofio dad yn smyglo ni mewn i'r stadiwm weithie' a falle bod ni'n ca'l e mewn i bach o drwbl ar y pryd! Ond fi'n credu bod e wedi bod yn rhywbeth pwysig iawn i fi a Tom.

O'n i ddim yn sylweddoli ar y pryd ond fe nath e ychwanegu at y math o chwaraewyr o'n ni eisiau bod.

Doedd dim pwysau arna i i chwarae rygbi achos bod dad wedi - o'n i wastad eisiau neud beth o'n i eisiau neud yn gyntaf ac fel plant o'n i a Tom yn gystadleuol iawn ym mhob chwaraeon - oedd hwnna ynddo fi ta beth.

Teimlo pwysau

Ond fi'n credu fod e bach yn anoddach ar ddechrau fy ngyrfa gyda'r Gleision oherwydd fod dad wastad yn sylwebu ar y gemau ac i fod yn onest do'n i ddim yn hoffi hwnna achos oedd gen i ffrindiau yn y rhanbarthau eraill ac o'n i'n teimlo bach o bwysau i chwarae'n dda achos fod dad yn sylwebu.

Ond roedd rhaid jyst derbyn hwnna ac ar ôl y blynyddoedd cyntaf oedd e'n iawn. Felly roedd bach o bwysau ond ar ddiwedd y dydd o'n i jyst eisiau ennill felly oedd e ddim yn chwarae rhan fawr.

Oedd mam a dad ddim rhy strict - o'n nhw'n gadael i fi fynd i lot o bethau fel plentyn a phan o'n i'n 17 neu 18 ac eisiau mynd mas o'n nhw'n hollol iawn achos dwi'n credu bod nhw'n sylweddoli bod e'n bwysig i fi brofi pethe gwahanol wrth dyfu lan.

O'n nhw jyst wastad ishe i fi a Tom wneud y gorau ym mhopeth o'n ni'n neud yn yr ysgol ac ar y cae rygbi ac os oedden ni'n gweithio'n galed yn g'neud hynny o'n nhw'n gadael inni wneud beth o'n ni moyn wedyn.

Fi'n credu bod fi 'di dysgu gan dad i beidio cymryd pethau'n rhy ddifrifol, mwynhau'r gêm, a chofio nad yw e'n para am byth felly mae'n bwysig mwynhau.

A'r un peth mewn bywyd yn gyffredinol, maen nhw wedi ceisio ein dysgu i feddwl am fywyd tu allan i rygbi.

Ewch yma i ddilyn cyffro'r Chwe Gwlad efo Cymru Fyw.

Hefyd ar y BBC