Ymgyrch yn erbyn toriadau i'r celfyddydau yng Ngwynedd

sgrech gwynedd

Mae ymgyrchwyr yn erbyn toriadau i gyllid y celfyddydau yng Ngwynedd wedi trefnu cyfarfod cyhoeddus i drafod dyfodol cynlluniau ariannu'r celfyddydau yn y sir.

Ymgyrch yw 'Sgrech Gwynedd' sy'n cael ei harwain gan nifer o artistiaid a chwmnïau yng Ngwynedd i "bwysleisio pwysigrwydd y celfyddydau" yn yr ardal.

Mae'r ymgyrchwyr yn gwrthwynebu'r posibilrwydd o dorri cyllideb y celfyddydau yng Ngwynedd, ac mae dros 600 o bobl wedi arwyddo deiseb ar-lein, i warchod y cyllid.

Yn ôl Cyngor Gwynedd, mae 75% o'r arian maent yn ei dderbyn i dalu am wasanaethau lleol yn dod o lywodraeth ganolog ar ffurf grant. Mae'r ffaith fod y grant honno yn cael ei thorri yn golygu "nad oes unrhyw ddewis bellach ond ystyried gweithredu toriadau fel hyn er mwyn gallu fforddio i dalu am wasanaethau lleol allweddol."

Yn y cyfarfod nos Fawrth 8 Chwefror, fe fydd Sgrech Gwynedd yn trafod beth fyddai effaith y toriadau ar brosiectau celf ar draws y sir a chanolfannau megis Neuadd Dwyfor ym Mhwllheli.

'Effaith uniongyrchol'

Dywedodd llefarydd ar ran Sgrech Gwynedd ei bod yn "hollbwysig ein bod ni fel sefydliadau celfyddydol a'r cyhoedd yn deallt pa mor dyngedfenol ydy'r sefyllfa yma. Yn amlwg mae unrhyw doriadau am gael effaith uniongyrchol ar atistiaid a chwmnïau o ran gweithgareddau a swyddi."

Mae'r grŵp yn nodi 4 pwynt o ran pwysigrwydd y sector yng Ngwynedd:

  1. Mae'r celfyddydau'n dod â phobl o bob oed at ei gilydd gan gyrraedd pawb
  2. Mae gweithgareddau celfyddydol hygyrch ar lawr gwlad yn cael effaith uniongyrchol ar ansawdd bywydau pobl
  3. Mae'r celfyddydau'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cymunedau
  4. Mae'r celfyddydau'n cyfrannu'n helaeth at economi'r sir drwy gynnig cyflogaeth a chynhyrchu incwm

Mae'r ymgyrchwyr yn dadlau fod y celfyddydau a diwylliant yn chwarae rhan bwysig ym mywyd trigolion Gwynedd, ac yn "elfen addysgiadol gref drwy ddigwyddiadau/profiadau newydd drwy gyfrwng y Gymraeg".

Mae nifer o artistiaid, cerddorion, cwmnïau cynhyrchu, prosiectau ymgyfrangogi, gŵyliau amrywiol ac ati, yn derbyn grantiau sylweddol gan y cyngor sir.

'Gwerth am arian'

Ychwanegodd y llefarydd ar ran yr ymgyrchwyr:

"Mae'r sector gelfyddydol yma yng Ngwynedd yn cyflawni llawer iawn am ychydig iawn o arian. Mae'r ffeithiau yn profi hynny: cefnogwyd dros 2,370 gweithgaredd er enghraifft gan 12 cwmni yn unig yn ystod 2014-15 gyda diolch i grant strategol cyngor Gwynedd. Fe wnaeth y gweithgareddau yma ddenu dros 403,000 i fwynhau'r arddangosfeydd/digwyddiadau amrywiol. Yn yr un cyfnod, fe wnaeth buddsoddiad o £169,700 grant strategol greu buddsoddiad/incwm pellach o dros £4m sydd yn profi gwerth am arian y celfyddydau. Mae'r buddsoddiad yn y celfyddydau yn cyfateb i tua £1.39 y person pob blwyddyn."

Yn ôl Cyngor Gwynedd, mae 75% o'r arian mae Cyngor Gwynedd yn ei dderbyn i dalu am wasanaethau lleol yn dod o lywodraeth ganolog ar ffurf grant.

"Cyn y Nadolig, fe wnaeth y Cyngor gynnal ymarferiad ymgynghori cynhwysfawr ar 118 o opsiynau posib ar gyfer toriadau i wasanaethau sydd dan ystyriaeth ar draws holl adrannau'r Cyngor, gan gynnwys opsiynau posib ym maes y celfyddydau.

Ymateb pobl Gwynedd

"Mewn ymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus, derbyniwyd dros 2,100 o ymatebion gan drigolion, busnesau a sefydliadau Gwynedd a daeth dros 600 o unigolion i'r gyfres o 32 o fforymau cyhoeddus a sesiynau galw heibio a gynhaliwyd ar draws y sir.

"Cyn dod i benderfyniad terfynol, bydd cynghorwyr Gwynedd yn edrych yn ofalus ar yr holl ymatebion, sylwadau a gohebiaeth a gyflwynwyd gan y cyhoedd yn ystod yr ymgynghoriad, yn ogystal â'r adborth penodol yr ydym wedi ei dderbyn gan sefydliadau sy'n cynrychioli sectorau a meysydd penodol fel y celfyddydau, busnes, pobl anabl, pobl ifanc, pobl hŷn a'r maes gwirfoddol.

Bydd adroddiad ar strategaeth ariannol a fydd yn cynnwys rhestr derfynol o doriadau gwasanaeth yn cael ei gyflwyno i Gabinet Cyngor Gwynedd ar 16 Chwefror, cyn i bob un o'r 75 o gynghorwyr Gwynedd ddod i benderfyniad terfynol yng nghyfarfod y Cyngor llawn ar 3 Mawrth.