Ryan Jones yn cymryd rôl gydag Undeb Rygbi Cymru

Ryan Jones Image copyright Huw Evans picture agency

Mae cyn-gapten Cymru, Ryan Jones wedi cael ei benodi yn Bennaeth Cymryd Rhan mewn Rygbi gan Undeb Rygbi Cymru.

Mae'r rôl yn un o ddwy gafodd eu creu wedi i Bennaeth Rygbi'r undeb, Josh Lewsey ymddiswyddo.

Cafodd Geraint John ei benodi i swydd Pennaeth Perfformiad yr Undeb ym mis Ionawr, a bydd Jones yn gweithio gydag ef.

"Fe fydda i'n cynrychioli anghenion, pryderon a chyfeiriad y gêm gymunedol yng Nghymru ar lefel y bwrdd," meddai Jones.

"Rydw i eisiau aros yn weledol ac ar gael, a byddwn yn annog y rheiny sydd â phersbectif modern ar y gêm ac awydd i dorri tir newydd i gysylltu, a rhannu eu syniadau."

Fe ddaeth gyrfa'r gŵr 34 oed i ben ym mis Awst 2015 ar ôl ennill 78 o gapiau rhyngwladol.