Amser i golli'ch acen?

Heini Gruffudd
Image caption Heini Gruffudd

Mae ymchwil gan yr 'Academie Francaise' i'r modd mae geiriau Ffrangeg yn cael eu sillafu wedi argymell cael gwared â chysylltnodau a thoeau bach o rhyw 2,500 o eiriau.

Ydy hi'n bryd i wneud rhywbeth tebyg gyda'r Gymraeg? Ydy'r amser wedi dod i adolygu rheolau iaith a gramadeg a'i gwneud hi'n iaith symlach?

Mae Heini Gruffudd, yr ymgyrchydd iaith a chadeirydd mudiad Dyfodol i'r Iaith, yn rhannu ei argraffiadau gyda Chymru Fyw.


"Dim cysylltiad gyda'r iaith"

Mae'n bwysig pwysleisio dyw hyn y mae Ffrainc newydd wneud ddim yn anarferol, gan fod yr Almaen wedi bod drwy'r un broses rhyw 10 i 15 mlynedd yn ôl.

O ran y Gymraeg mae mwyafrif rheolau orgraff a gramadeg wedi'u gosod gan bwyllgorau o academyddion yn yr 1920au, bron i ganrif yn ôl. Nawr mae rhai o'r rheolau hyn wedi cael eu hadolygu, eto gan bwyllgorau o academyddion, sydd yn creu rheolau am ddyblu 'n' ac 'r' a oedd ddim ag unrhyw gysylltiad o gwbl gyda'r ffordd roedd yr iaith yn cael ei defnyddio.

Ffosileiddio'r Gymraeg

Nôl yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg aeth pethau bach yn rhemp, ac roedd pobl yn sillafu pethau fel ro'n nhw moyn gyda hyd yn oed Michael D Jones yn defnyddio 'x' yn lle 'ch'.

Roedd pobl yn ceisio gwneud yr iaith yn symlach, ond doedd ddim trefn o gwbl. Ond yn anffodus, pan gafodd trefn ei chreu, er enghraifft, rheolau gramadeg John Morris Jones, roedden nhw wedi'u seilio ar sut roedd llenorion ac academyddion yn ysgrifennu'r iaith ar hyd y canrifoedd yn hytrach nag adlewyrchu'r Gymraeg fel roedd hi ar y pryd.

Felly mewn ffordd 'ffosileiddwyd' y Gymraeg ac fe gafodd rheolau cadarn eu gosod oedd allan o ddefnydd cyn i'r rheol gael ei chreu hyd yn oed.

Dyma ble cafodd yr argraff ei chreu fod dysgu Cymraeg fel dysgu set o reolau llym yn hytrach na dysgu modd i gyfathrebu yn naturiol.

Image caption "Nôl yn y 19 ganrif, aeth pethau bach yn rhemp... gyda hyd yn oed Michael D Jones yn defnyddio 'x' yn lle 'ch'" - Heini Gruffudd

Dyblu llythrennau, dyblu'r trafferthion?

Fyddwn ni'n tybio fod hi'n hen bryd cael corff i edrych eto ar ddefnydd acenion yn ein geiriau o leiaf, gan nad yw acenion, i bob pwrpas, prin mewn defnydd pob dydd naill ai mewn gohebiaeth na mewn ysgrifen gyffredin.

Bydden i, yn bersonol, yn mynd gam ymhellach a galw am gorff i adolygu dyblu llythrennau a'r rheolau sydd ynghlwm â hynny, gan taw'r unig bwrpas ac effaith yw creu anhawster i ddefnyddwyr yr iaith ac yn arbennig i bobl sy'n ei dysgu.

Mae'r Gymraeg yn naturiol yn iaith ffonetig, a dylen ni fynd yn bellach lawr y ffordd honno, a pheidio cymhlethu'r hyn sydd yn syml.

Mae rheolau ysgrifenedig yn bodoli am ffurfiau berfol a ffurfiau arddodiad nad ydyn ni byth yn eu dweud nhw. Felly mae gwir angen adolygu'r rhain a'u gwaredu fel bod pawb yn gwybod yn union ble maen nhw'n sefyll.

Mae prosiect ar hyn o bryd rhwng prifysgolion Caerdydd, Abertawe, Bangor a Lancaster sydd yn cofnodi corpws o sut mae'r Gymraeg yn cael ei defnyddio gan bobl ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Maen nhw'n edrych ar ddefnydd y Gymraeg mewn cyd-destunau answyddogol fel y rhwydweithiau cymdeithasol er enghraifft. Falle' bydd hwn yn gam bach i'r cyfeiriad iawn.

Image caption "Roedd rheolau gramadeg John Morris Jones, wedi'u seilio ar sut roedd llenorion ac academyddion yn ysgrifennu'r iaith ar hyd y canrifoedd, yn hytrach nag adlewyrchu'r Gymraeg fel roedd hi ar y pryd."

Set newydd o reolau?

Mae'n bosibl bydd hyn yn medru esgor ar ddarn o waith arall, fydd yn medru creu set newydd o reolau, ond rhai sydd y tro yma wedi eu seilio ar ddefnydd cyffredin ac nid argraffiadau academyddion yn unig.

Y cyfan yw gramadeg yw disgrifiad o sut mae iaith yn cael ei defnyddio. Yn anffodus, yng Nghymru, ry'n ni wedi tueddu i edrych ar reolau gramadeg fel rhyw ffordd o gadw purdeb ieithyddol, sydd fiw i ni ei lygru o gwbl.

Mae angen i unrhyw ramadeg ac unrhyw orgraff adlewyrchu sut mae'r Gymraeg yn cael ei defnyddio heddiw, a dim adlewyrchu rhyw reolau cyntefig.

Ond mae pob iaith... pob iaith, wedi newid yn ddifrifol, a does dim modd gwrthweithio hwnna ac mae'n rhaid cydnabod sut mae'r iaith yn derbyn y newidiadau 'ma yn llwyddiannus.

Fe derbynion ni'r Lladin, a does neb yn cwyno am ddylanwad y Lladin ar y Gymraeg, yn hytrach mae'r academyddion wrth eu bodd yn astudio'r peth yn ddi-ddiwedd.

Mae'r un peth yn wir heddiw, mae'n fater o glod i'n hiaith ei bod hi'n medru newid, oherwydd cyn gynted a 'dych chi'n ffosileiddio iaith, mae hi'n marw."