Wrecsam 2-2 Forest Green

Blaine Hudson Image copyright Huw Evans Agency
Image caption Blaine Hudson sgoriodd y goliau i Wrecsam

Fe wnaeth Brett Williams gipio pwynt i Forest Green Rovers gyda gôl hwyr yn erbyn Wrecsam.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen drwy Darren Carter ond sgoriodd Blaine Hudson ddwywaith wedi'r egwyl i roi Wrecsam ar y blaen.

Ond yn y munudau olaf, cafodd chwaraewr Forest Green, Sam Wedgbury ei yrru o'r cae am ail gerdyn melyn, cyn i Williams rwydo mewn amser ychwanegol i sicrhau pwynt.

Mae Wrecsam yn aros yn y 12fed safle tra bod Forest Green yn disgyn i'r ail safle yn y Gynghrair Genedlaethol.