Gwrthdrawiad M4: Pedwar yn yr ysbyty

M4 between Margam and Pyle Image copyright Google

Mae pedwar o bobl wedi eu cludo i'r ysbyty ac roedd rhaid cau rhan o'r M4 am gyfnod yn dilyn gwrthdrawiad rhwng sawl cerbyd.

Roedd chwe cherbyd yn rhan o'r digwyddiad rhwng cyffordd 38 Margam a chyffordd 37, Y Pîl, fore Sul.

Cafodd criwiau tân eu galw oherwydd bod un cerbyd ar dân.

Dywedodd y gwasanaethau brys nad oedd unrhyw un wedi eu hanafu yn ddifrifol.