Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Iwerddon 16-16 Cymru

Faletau Image copyright Getty Images
Image caption Taulupe Faletau sgoriodd cyn yr egwyl i Gymru

Daeth Cymru yn ôl o 13-0 i sicrhau gêm gyfartal mewn gêm gyffrous ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn Nulyn.

Aeth y tîm cartref ar y blaen drwy gais Conor Murray ac wyth o bwyntiau o droed Johnny Sexton.

Ond daeth Cymru yn ôl gyda chais gan Taulupe Faleatu, a llwyddodd yr eilydd Rhys Priestland gyda'r trosiad a chic gosb arall i roi'r ymwelwyr ar y blaen am y tro cyntaf.

Daeth Iwerddon yn gyfartal funudau'n ddiweddarach gyda chic gosb arall gan Sexton, a doedd Priestland methu a chicio'n gywir gydag ymdrech am gôl adlam fyddai wedi sicrhau'r fuddugoliaeth yn y munudau olaf.

Image copyright Getty Images
Image caption Conor Murray sgoriodd i'r Gwyddelod
Image copyright Getty Images
Image caption Rhoddodd Priestland berfformiad da ar ôl dod ymlaen yn lle Biggar

Gyda'r cloc wedi pasio 80 munud, roedd y ddau dîm yn awyddus i gipio'r fuddugoliaeth yn hytrach na gêm gyfartal.

Ond roedd amddiffyn y ddau yn gryf ac roedd y rhyddhad yn glir ar wynebau'r chwaraewyr pan ddaeth y chwiban olaf.

Roedd Iwerddon heb Sean O'Brien a Rob Kearney i'r gêm, ac roedd Cymru wedi gorfod galw ar Liam Williams i ddechrau yn safle'r cefnwr oherwydd anaf hwyr i Gareth Anscombe.

Ac o fewn 20 munud o chwarae roedd Rhys Priestland ar y cae yn lle Dan Biggar oherwydd anaf i'w droed.

Y tîm cartref oedd gryfaf yn yr hanner-awr cyntaf wrth i Murray groesi'r llinell yn dilyn cyfnod da o feddiant.

Image copyright Getty Images
Image caption Fe wnaeth Jamie Roberts nifer o daclau da wrth i Gymru amddiffyn yn well yn yr ail hanner

Ond daeth Cymru yn ôl cyn yr egwyl drwy gicio Priestland a chais Faletau, wnaeth gipio'r bêl o'r sgrym a churo dau amddiffynnwr i sgorio.

Roedd mwy o gicio cywir gan y maswyr, ond doedd yr un yn gallu sicrhau'r fuddugoliaeth.

Cafodd yr ymwelwyr gyfnod hir o bwysau tua'r diwedd, cyn i Priestland fethu gyda'i gic adlam.

Mae'n golygu nad yw Cymru wedi ennill gemau'n olynol yn Iwerddon ers 2000.

Cliciwch yma i ddarllen yn ôl drwy'r gêm funud wrth funud, neu ewch i'n is-hafan Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.