Pleidlais ar gyllideb Cymru yn y Cynulliad

Jane Hutt
Image caption Mae Jane Hutt yn dweud y bydd £120m o fuddsoddiad yn creu tua 2,000 o swyddi

Bydd aelodau Cynulliad yn pleidleisio ar gyllideb Cymru ddydd Mawrth - yr olaf cyn Etholiad y Cynulliad ym mis Mai.

Bydd y gwariant ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cynyddu £278m yn 2016/17 - cynnydd o dros 4% - ond mae awdurdodau lleol yn wynebu cwtogiad o 2% ar gyfartaledd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd, gyda'r gwario ar addysg uwch hefyd yn debyg o ddioddef.

Ond mae disgwyl i'r Democratiaid Rhyddfrydol ymatal eu pleidlais, a chaniatáu i'r gyllideb gael ei phasio.

Cytundeb dwy flynedd

Bydd y gwariant ar iechyd yn codi i 48% o holl wariant Llywodraeth Cymru, y ganran uchaf erioed.

Er bydd y gwariant ar addysg a sgiliau yn codi o 1.1%, mae gweinidogion wedi cael eu hannog i ystyried toriadau o tua thraean i'r corff sy'n ariannu prifysgolion, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Mae trafodaethau hefyd wedi eu cynnal i benderfynu ar uchafswm ar y toriadau sy'n debygol ar gyfer cynghorau gwledig.

Mae nifer o'r rheiny, gan gynnwys Powys, Ceredigion a Sir Fynwy, yn wynebu toriadau o rwng 3% a 4% oherwydd y fformiwla cyllido sy'n gallu effeithio ar ardaloedd ble mae'r boblogaeth yn isel.

Mae'r gyllideb yn ganlyniad cytundeb dwy flynedd rhwng Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol i glustnodi arian ychwanegol i ddisgyblion o gefndiroedd difreintiedig.

Er bod y Ceidwadwyr a Plaid Cymru wedi dweud y byddan nhw'n pleidleisio yn erbyn, mae disgwyl iddi gael ei phasio oherwydd ymataliad pleidleisiau'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Ymateb

Bydd cynnydd yng nghyllidebau'r economi a'r amgylchedd yn cynnwys cynnydd mewn gwariant cyfalaf mewn meysydd fel ffyrdd ac amddiffynfeydd llifogydd.

Mae'r Gweinidog Cyllid Jane Hutt wedi dweud y bydd £120m o fuddsoddiad yn creu tua 2,000 o swyddi adeiladu "gan hybu twf a chefnogi darparu gwasanaethau cyhoeddus yn fwy effeithlon".

Mae llefarydd y Ceidwadwyr ar gyllid, Nick Ramsay yn dweud bod Llafur "wedi llwgu'r gwasanaeth iechyd o biliwn o bunnoedd".

"Mae unrhyw gyllido ychwanegol cyn etholiad yn gyfaddefiad o fethiant penderfyniadau blaenorol, ac yn rhy ychydig yn rhyw hwyr i lawer o gymunedau ar draws Cymru," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Rydym am weld gwyrdroi'r toriadau digynsail i'r sector addysg uwch, rydym am weld y setliad anghytbwys i awdurdodau lleol yn cael ei ddatrys ac rydym am weld Llywodraeth Cymru yn buddsoddi ymhob rhan o Gymru yn hytrach na chyllido'r gwaith paratoi ar gyfer yr M4 newydd."

Straeon perthnasol