Gwrthdrawiad Cricieth: Dwy yn yr ysbyty

Criccieth Image copyright Google
Image caption Llun o'r A497

Mae dau o bobl wedi eu cludo i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr yn dilyn gwrthdrawiad difrifol yng Nghricieth ddydd Mawrth.

Ychydig wedi hanner dydd fe gafodd swyddogion yr heddlu eu galw i'r gwrthdrawiad rhwng car VW Polo a Ford Fiesta ar ffrodd yr A497 ger mynedfa Gwesty Bron Eifion yn y dref.

Cafodd dwy ddynes eu cludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor, a'r gred ydi bod y ddwy wedi dioddef anafiadau difrifol.

Mae'r ffordd yn parhau ar gau ar hyn o bryd.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth am y gwrthdrawiad i gysylltu drwy ffonio 101 gan ddefnyddio'r cyfeirnod U019505.