Altrincham 1-1 Wrecsam

Simon Heslop Image copyright Getty Images
Image caption Simon Heslop

Bu'n rhaid i Wrecsam fodloni ar gêm gyfartal oddi cartref yn Altrincham, hon oedd eu trydedd gêm gyfartal yn olynol yn y Gynghrair Genedlaethol.

Josh Ginnelly, ar fenthyg o Burnley, roddodd Altrincham ar y blaen.

Ond roedd Wrecsam yn gyfartal cyn yr eglwyl, peniad Simon Heslop o groesiad Kayden Jackson.

Fe aeth Robbie Evans, Blaine Hudson a Connor Jennings yn agos i'r ymwelwyr yn yr ail hanner.

Mae Wrecsam yn y 12fed safle, gyda bwlch o bedwar pwynt rhyngddynt a safleoedd y gemau ailgyfle.