Sian Williams yw'r Gymraes gynta' i arwyddo cytundeb rygbi proffesiynol

Sian Williams Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae Sian Williams wedi bod gyda'r Awyrlu ers saith mlynedd ac yn cyfuno gwaith a rygbi

Chwaraewr rheng-ôl Cymru Sian Williams ydi'r Gymraes gynta' i chwarae rygbi yn broffesiynol.

Mae Williams - sy'n 25 oed - yn gweithio gyda'r Awyrlu a nhw sydd wedi rhoi statws Athletwraig Elít iddi.

Mae'n golygu bod yr Awyrlu wedi ei rhyddhau hi am o leia' ddwy flynedd i ymarfer yn llawn amser.

Mae Williams wedi ennill 20 o gapiau i Gymru ac yn chwarae rygbi rhanbarthol i'r Dreigiau ac i glwb Caerwrangon.

Er mai Williams ydi'r cynta' dywedodd ei bod yn gobeithio nad hi fydd yr unig un am yn hir.

'Yn y car'

"Dyma'r dechrau a gobeithio y bydd mwy a mwy o ferched yn dod yn chwaraewyr llawn amser hefyd.

"Fyddwn i ddim lle ydw i heddiw oni bai am gefnogaeth yr Awyrlu.

"Dwi wedi cyfuno'r gwaith a'r rygbi dros y blynyddoedd."

Pan oedd Williams yn byw yn Rhydychen fe fyddai'n teithio i Gaerdydd dair gwaith yr wythnos i hyfforddi gyda Chymru yn ogystal a hyfforddi ddwywaith yr wythnos gyda Chaerwrangon.

"Fe fyddwn i'n treulio tua 12 awr yr wythnos yn y car, ac roedd hi'n anodd cael y cydbwysedd gwaith a rygbi," meddai mewn cyfweliad gyda BBC Cymru.

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Colli oedd hanes Sian Williams a Chymru yn erbyn Iwerddon ddydd Sadwrn

"Fydd hynny ddim yn digwydd rwan. Fe fyddai'n gallu defnyddio'r amser i hyfforddi.

"Allwn i ddim colli ar y cyfle i fynd yn broffesiynol."

Fe fydd Williams yn gysyllteidig gyda'r Awyrlu yn Sain Tathan.

Colli wnaeth tîm merched Cymru yng ngêm agoriadol pencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn yn erbyn Iwerddon. Mae Williams a'r tîm yn gobeithio cael pwyntiau o'r ail gêm yn erbyn Yr Alban ddydd Sul.