Noel Gallagher i berfformio yng Ngŵyl Rhif 6

Noel Gallagher

Mae Gŵyl Rhif 6 wedi cyhoeddi rhai o'r prif artistiaid ar gyfer y digwyddiad eleni.

Noel Gallagher, gynt o Oasis, fydd yn arwain ar y prif lwyfan nos Sul ym Mhortmeirion, gyda'r grŵp roc, Bastille, yn gwneud hynny ar y nos Wener.

Hot Chip fydd yn perfformio ar y nos Sadwrn, gyda'u cerddoriaeth eclectro-pop yn dilyn cyhoeddi eu chweched albwm stiwdio - 'Why Make Sense?'

Uchafbwynt posib arall fydd perfformiad arbennig o ganeuon David Bowie gan y cyfansoddwr preswyl, Joe Duddell, a fydd yn cydweithio â cherddorfa.

Ymysg rhai o'r artistiaid eraill sydd wedi eu cadarnhau mae Django Django, Echo & The Bunnymen, Rosin Murphy, Frances, Gwenno, JP Cooper, Lawrence Taylor, Lucy Rose, NGOD, Oh Wonder, Oscar, Roots Manuva a The Amazons.

'Y flwyddyn orau eto'

"Dyma'r bumed flwyddyn ac mae'n parhau i wella a gwella," meddai Gareth Cooper, sylfaenydd yr ŵyl.

"Mae'r don gyntaf o artistiaid a DJ's yn well nag erioed ac mae digon o syrpreisys i ddod.

"Mae gennym lawer i'w gyhoeddi o ran ochr y diwylliant, celfyddydau a bwyd yr ŵyl. Bydd y cyfan yn cael eu datgelu cyn hir a dw i'n siŵr mai 2016 fydd y flwyddyn orau eto."

Bydd Gŵyl Rhif 6 yn cael ei chynnal rhwng 1-4 Medi, 2016