Dirgelwch yr Ogof

David and Karina Edwards
Image caption David Edwards a'i wraig, Karina.

Mae perchennog busnes yng Ngheredigion wedi dod o hyd i dwnnel o dan ei siop, y mae e'n meddwl oedd yn arfer cael ei ddefnyddio gan smyglwyr yr ardal.

Daeth David Edwards ar draws yr agoriad yn ei siop yng Nghei Newydd ar ôl llifogydd yn ei stordy yn y seler.

Dywedodd Mr Edwards, sydd wedi ei eni a'i fagu yn y pentre: "Fel plentyn, roeddwn i wedi clywed hanesion bod yna dwnnel smyglwyr o dan yr adeilad, ond dim ond ar ôl i lifogydd a hen ddrws gael ei symud y gwnes i a fy ngwraig ddod ar draws wyneb y graig a'r agoriad, a gweld bod yna dwnnel cuddiedig yn arwain at y môr."

Image caption David Edwards yn nhywyllwch y twnnel.

Yn ôl gwraig David, Karina, roedd y darganfyddiad yn un cyffrous: "Ro'n i'n meddwl fy mod i'n mynd i ddod o hyd i bot o aur ac y byddwn yn gallu ymddeol, ond yn anffodus, nid fel na oedd hi! Mae'n brofiad iasol a chyffrous cerdded drwy'r twnnel."

Mae'n bosib y byddai'r twnnel wedi arwain i'r traeth lle roedd smyglwyr yn cuddio.

Un sy'n gyfarwydd iawn â hanes Cei Newydd yw Sue Passmore, sydd wedi ysgrifennu nifer o lyfrau hanesyddol am yr ardal: "Rwy'n siwr fod lot o smyglio yn y Cei am ganrifoedd. Roedd e wedi dechrau yn oes Elisabeth y Cyntaf. Mae'r twneli yma'n mynd yn ôl yn bell, bell iawn.

"Roedden nhw'n siarad am dwneli eraill pan oedd fy nhad yn ifanc iawn. Roedden nhw'n dweud bod un yn rhedeg i lawr i draeth y Dolau.

"Aeth e lan pan oedd e'n fachgen i weld beth oedd yna, ond roedd e'n dweud ei fod wedi cwrdd â chymaint o lygod mawr, ei fod wedi gwneud hast i fynd mas! Ond mae storïau wedi para am dwneli yn y Cei.

"Falle roedd e'n lle i guddio pethe hefyd oedd wedi eu smyglio. Roedd halen yn bwysig iawn, achos roedd yn rhaid i chi dalu treth halen o gyfnod William y 3ydd hyd at amser Siôr y 4ydd. Roedd e'n bwysig i bobl achos dyna'r un ffordd o gadw'r bwyd yn ffres."