Beiciwr modur 136mya: Gwahardd dyn rhag gyrru

A5 Image copyright Google
Image caption Roedd Thomas Brown yn gyrru ar yr A5 ger Corwen pan gafodd ei ddal

Mae beiciwr modur gafodd ei ddal yn gyrru ar 136mya wedi ei wahardd rhag gyrru am chwe mis.

Cafodd Thomas Brown, 25 o ardal Llanrhaeadr-ym-Mochnant, ei ddal ar yr A5 ger Corwen, sydd â therfyn cyflymder o 60mya.

Roedd yn gyrru rhwng Tŷ Nant a Dinmael am tua 14:00 ar Hydref 25 y llynedd pan gafodd ei ddal gan gamera'r heddlu.

Clywodd Llys Ynadon Sir y Fflint bod cyflymder Brown yn "gwbl anghyfrifol".

Wrth gynrychioli ei hun yn y llys, dywedodd Brown ei fod "wedi bod yn wirion" a'i fod bellach wedi gwerthu'r beic modur.

Yn ogystal â chael ei wahardd, cafodd Brown hefyd ddirwy o £120 a bydd rhaid talu costau o £105.