Y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cyhoeddi cau deg o lysoedd

Cyfiawnder

Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cyhoeddi y bydd 10 o lysoedd yng Nghymru yn cau, gyda gwaith sawl llys arall yn cael ei drosglwyddo i ganolfannau lleol cyn i'r rhai hynny gau yn derfynol.

Mewn datganiad, dywedodd y Weinyddiaeth y byddai'r llysoedd canlynol yn cau:

  • Llysoedd y Gyfraith, Caerfyrddin (bydd Canolfan Cyfraith Sifil, Teulu, Tribiwnlys a Phrofiant Caerfyrddin yn parhau ar agor);
  • Llys Ynadon Prestatyn.

Bydd lleoliadau eraill yn derbyn y gwaith sydd yn cael ei wneud yno er mwyn lleihau'r effaith fydd yn dod yn sgil eu cau.

Hefyd fe fydd y llysoedd canlynol yn cau o ganlyniad i gynlluniau'r Weinyddiaeth Gyfiawnder:

  • Llys y Goron ac Ynadon Dolgellau;
  • Llys Ynadon Caergybi;
  • Llys Sifil a Theulu Llangefni;
  • Llysoedd y Gyfraith, Aberhonddu;
  • Llysoedd y Gyfraith, Pen-y-Bont ar Ogwr;
  • Llysoedd Sifil a Theulu, Castell Nedd a Phort Talbot;
  • Llys Ynadon Pontypridd;
  • Canolfan Tribiwnlys a Gwrandawiadau Wrecsam (Rhyd Brychdyn).

'Ergyd drom'

Wrth ymateb i'r datganiad, dywedodd aelod seneddol Llafur Ynys Môn, Albert Owen: "Mae hyn yn ergyd drom i gymuned Ynys Môn - rwyf wedi fy siomi gyda chynlluniau'r llywodraeth i gau'r llysoedd yn Llangefni a Chaergybi a'r ffordd y maen nhw wedi penderfynu gwneud y cyhoeddiad yma.

"Yn ystod fy nghyfarfod gyda Shailesh Vara (is-ysgrifennydd parhaol yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder), fe wnes i ddadlau bod gan lawer o ardaloedd ar yr ynys gysylltiad ffonau symudol a band eang gwael sydd yn atal trigolion rhag cyflwyno eu tystiolaeth yn 'ddigidol'.

"Yr unig ddewis arall ydi Llys y Goron Caernarfon ac i bobl o ogledd Ynys Môn neu Gaergybi mae'r disgwyliad yma'n annerbyniol. Fe fydd yn golygu y bydd llawer o bobl, sy'n ddibynol ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn wynebu teithiau drud a hir.

"Dyw'r llywodraeth heb wrando, ac maen nhw'n cau gwasanaethau lleol yn ddistaw bach."

Newyddion 'chwerw felys'

Dywedodd Jonathan Edwards, aelod seneddol Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr fod y newyddion i Gaerfyrddin yn gymysg, wrth i un ganolfan gyfreithiol gau yn y dref, tra bod canolfan arall yn parhau ar agor.

"Mae'r newyddion heddiw yn chwerw felys gan y byddwn yn gweld llys eiconig y Guildhall yn cau, ond mae'n hymdrechion, yn cynnwys ymdrech y proffesiwn cyfreithiol, ynadol lleol a'r cyhoedd, wedi llwyddo i gadw achosion cyfreithiol yn y dref. Mae hyn yn gamp sylweddol o gofio am bwysigrwydd hanesyddol a diwyllianol Caerfyrddin fel prif dref cyfiawnder gorllewin Cymru.

"Ond mae fodd bynnag yn ymddangos yn rhyfedd i mi fod y llywodraeth yn cau adeilad yr oeddynt wedi gwario miliynau arno yn ddiweddar i'w gynnal. Yn wir, mae cau'r adeilad yn wastraff anferthol o arian cyhoeddus gan y llywodraeth Geidwadol," meddai.

'Pryderus iawn'

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn bryderus iawn am gau cymaint o lysoedd yng Nghymru. Mae gan bawb hawl i gyfiawnder ac mae cau'r llysoedd hyn yn niweidio'r hawl hwnnw'n ddifrifol, yn enwedig mewn ardaloedd cefn gwlad.

"Mae ein gwaith ymchwil yn awgrymu bod llywodraeth y DU wedi camfesur effaith cau'r llysoedd, yn enwedig o gofio am amseroedd teithio llawer hirach i lysoedd eraill. Rydym wedi mynegi ein barn yn gryf i lywodraeth y DU ar y mater ac fe fyddwn yn parhau i wneud hynny."