Dyn wedi marw ar ôl disgyn mewn i lyn

Llyn Image copyright Google

Mae dyn wedi marw ar ôl disgyn mewn i lyn wrth gasglu peli golff.

Cafodd Gareth Pugh oedd yn 29 oed ac yn dod o Lyn-nedd ei ddarganfod yn y llyn yng nghlwb golff Peterstone Lakes yng Nghasnewydd.

Mi oedd o'n un o weithwyr y clwb.

Mi ddefnyddiodd yr heddlu gamerâu dan y dŵr i ddod o hyd iddo.

Mi fuodd o farw yn ddiweddarach yn yr ysbyty yng Nghaerdydd.

Mae disgwyl i brawf bost mortem gael ei gynnal wythnos nesaf.