Abertawe 0-1 Southampton

Pel droed Image copyright Getty Images

Abertawe 0-1 Southampton

Dyma'r gêm gyntaf i Abertawe golli o dan arweiniad yr hyfforddwr newydd Francesco Guidolin.

Ond mi fydd yr Elyrch yn siomedig na chafon nhw gig o'r smotyn yn y munudau olaf.

Shane Long gafodd y gôl i Southampton yn yr ail hanner.

Mae'r canlyniad yn golygu bod y pwysau yn cynyddu ar Abertawe os ydyn nhw am aros yn uwch gynghrair Lloegr.