Achub rhwyfwyr ar y môr yn Affrica

Olivia Wilson Image copyright Oceanus Rowing
Image caption Olivia Wilson cyn iddyn nhw adael Gran Canaria

Mae menyw o Ynys Môn ymhlith y rhwyfwyr sydd wedi eu hachub ar ôl i'w cwch droi drosodd ar y môr yn Affrica.

Mi oedd Olivia Wilson, sydd yn 27 ymhlith y pedair o ferched oedd yn ceisio cyrraedd Barbados ar ôl cychwyn ar eu taith o Gran Canaria. Y nod oedd cyrraedd o fewn 45 diwrnod.

Ond mi aethon nhw i drafferthion ac mi oedden nhw wedi colli eu rhwyfau ac offer gan gynnwys GPS.

Image copyright Oceanus Rowing

Mi anfonodd y criw ar y cwch neges yn dweud eu bod mewn trafferthion fore Sadwrn ac mi gafon nhw eu hachub gan long o Ganada 16 awr yn ddiweddarach.

Mae Gwylwyr y Glannau Prydain yn dweud bod y merched i gyd mewn "iechyd da".