Gweithwyr dur yn protestio ym Mrwsel

protest

Mae miloedd o weithwyr dur, gan gynnwys nifer o Gymru, wedi cymryd rhan mewn protest yng Ngwlad Belg yn galw ar yr Undeb Ewropeaidd i achub y diwydiant.

Ymysg y gweithwyr sydd wedi teithio i Wlad Belg o'r Deyrnas Unedig, mae tua 50 o Gymru.

Mae tua 5,000 o weithwyr dur eraill o Ewrop hefyd yn cymryd rhan yn yr orymdaith ddydd Llun.

Fis diwethaf cyhoeddodd Tata Steel y byddai 750 o weithwyr yn colli eu gwaith ym Mhort Talbot.

Mae tua 4,000 yn gweithio yn y ffatri yno ac mae Tata yn cyflogi 6,000 ledled Cymru a 17,000 yn y DU.

Image caption Roedd baner y Ddraig Goch i'w gweld yng nghanol y protestiadau ym Mrwsel ddydd Llun

Pan ddaeth y cyhoeddiad am y diswyddiadau, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones bod y newyddion yn ergyd fawr i'r gymuned ac i'r economi yn ehangach.

Mae'r gweithwyr yn galw ar yr Undeb Ewropeaidd i atal dur rhad o China rhag cael ei werthu'n rhad ar draws Ewrop.

Dywedodd Karl Koehler, prif weithredwr Tata Steel yn Ewrop, fod miloedd o swyddi ychwanegol "yn y fantol" os nad yw'r Undeb Ewropeaidd yn ymyrryd ar unwaith.

Straeon perthnasol