Ymchwiliad cyhoeddus arall i fferm wynt Mynydd y Gwair

Mynydd y Gwair
Image caption Mynydd y Gwair ger Abertawe

Mae'r ymchwiliad cyhoeddus diweddaraf i ystyried cynllun dadleuol i adeiladu fferm wynt ger Abertawe wedi dechrau ddydd Mawrth.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi caniatâd cynllunio i RWE Innogy UK a chaniatâd i gynhyrchu trydan.

Ond mae angen i'r cwmni gael gwared ar statws tir comin y safle ym Mynydd y Gwair, ger Felindre cyn bwrw ymlaen â adeiladu'r fferm wynt.

Mae ceisiadau cynllunio gan RWE Innogy UK wedi eu gwrthod sawl gwaith yn y gorffennol yn dilyn dau ymchwiliad cyhoeddus, adolygiad barnwrol a gwrandawiad mewn llys apêl.

Beirniadaeth

Yn dilyn y cais diweddaraf i adeiladu'r fferm ym Mynydd y Gwair, bu'r Aelod Seneddol lleol, Byron Davies, yn feirniadol o'r syniad gan ddweud y dylai'r cwmni ddod o hyd i safle arall.

Fe rwystrodd y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans, y datblygiad gwerth £52m ger Felindre ar ôl ystyried adroddiad arolygwr cynllunio.

Roedd Cyngor Abertawe wedi rhoi caniatâd i gwmni RWE Innogy UK i adeiladu 16 o dyrbinau ar y safle, ond roedd y cynllun yn ddibynnol ar ddadgofrestru tir comin fel rhan o'r broses, gyda Llywodraeth Cymru yn gwrthod yr elfen honno o'r datblygiad.

Mae RWE Innogy yn dadlau bod astudiaeth annibynnol yn dangos y gallai datblygiad Mynydd y Gwair greu hyd at 104 o swyddi yn ystod pob blwyddyn o'r gwaith adeiladu.

Gallai cynnal y safle wedyn greu 19 o swyddi eraill, yn ôl y cwmni, a bod gwerth £1.2m y flwyddyn i economi Cymru.

'Rhesymau cadarn'

Ddydd Mawrth, dywedodd yr AC Dr Altaf Hussain bod methiannau yn yr ymgynghoriad gyda phobl leol, ac nad oedd y cais newydd yn newid y "rhesymau cadarn" am wrthod y ceisiadau blaenorol.

Ychwanegodd y gallai'r datblygiad gael effaith negyddol ar ffermio.

Dywedodd ffermwr lleol a chadeirydd yr ymgyrch yn erbyn y cynllun ei fod yn "anhygoel" nad oedd yr "holl wybodaeth" gafodd ei gyflwyno mewn gwrandawiadau blaenorol wedi ei dderbyn.

Ychwanegodd bod gan 120 o bobl yr hawl i roi anifeiliaid ar y tir, a bod hynny werth £5m i'r economi leol.