Y prop Rhodri Jones i ymuno â'r Gweilch o'r Scarlets

Rhodri Jones Image copyright Huw Evans picture agency

Bydd y prop rhyngwladol, Rhodri Jones, yn ymuno â'r Gweilch o'r Scarlets ar ddiwedd y tymor.

Mae'r gŵr 24 oed wedi cynrychioli Cymru 13 o weithiau, ac fe wnaeth arwyddo cytundeb deuol ym mis Rhagfyr 2014.

Ond mae ei gytundeb newydd gyda'r Gweilch yn unig, ac nid yw'n estyniad o'r cytundeb deuol oedd yn cael ei ariannu ar y cyd gan y Scarlets ac Undeb Rygbi Cymru.

Mae'r prop wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd yn Abertawe.

"Rydw i wedi mwynhau fy amser gyda'r Scarlets, ond mae hwn yn gyfle da i mi yn broffesiynol," meddai Jones.