Fuoch chi 'rioed yn morio?

A hithau'n wythnos hanner tymor a'r cyfnod gwyliau ar ei ffordd, mi fydd gwaith gwirfoddolwyr y badau achub yn prysuro dros y misoedd nesa', wrth i dwristiaid heidio i'r traethau.

Ond beth am y rhai sy'n cael au galw allan ym mhob tywydd, ddydd neu nos, i ymateb i alwadau brys? Gall y pager swnian tra'n torri'r lawnt neu'n gwarchod y plant. Ond mae Ifer Gwyn, gwirfoddolwr gyda'r RNLI yng Nghricieth, yn gadael popeth i fynd allan i'r môr...

Image caption Tîm o wirfoddolwyr bad achub Cricieth yn ymateb i alwad

Disgrifiwch eich gwaith fel gwirfoddolwr gyda'r RNLI.

Mae'r ardal sy' gynnon ni fan hyn yn cyfro traeth Harlech, Craig Ddu, Portmeirion a Phorthmadog, felly rydyn ni rhan fwya' yn ymateb i alwadau gan bobl hamdden, pobl sydd ar eu gwyliau yn hytrach na physgotwyr a phobl leol.

Pobl sy'n mynd ar gychod hwylio, jet skis, kayaks a phobl yn syrffio. Fel arfer, o'r Pasg ymlaen mae nifer y galwadau'n codi a'r gorau di'r tywydd, y prysura' fyddwn ni.

Fis Hydref, ces fy ngalw allan i ddigwyddiad lle roedd dau jet ski wedi taro'i gilydd wrth draeth Graig Ddu. Oedd hi'n alwad eitha' cas o ran anafiadau, roedd y gwaith yn anodd ac angen sgiliau cymorth cyntaf ar frys. Pobl ar eu gwyliau oedden nhw a ddim yn sylweddoli efallai bod jet skis yn bethau pwerus iawn iawn.

Pwy sydd yn mynd i drafferthion fel arfer?

Yn bennaf, pobl sy'n dod o ardaloedd dinesig, maen nhw mewn meddylfryd gwyliau, a ddim yn meddwl cweit am ddiogelwch fel y bydden nhw adre', nac yn ystyried y peryglon ddigon cyn mwynhau'r môr. Dydyn nhw ddim yn ystyried y llanw a thrai a pha mor beryglus gall y tonnau fod.

Image copyright RNLI
Image caption Ifer Gwyn (ar y dde) gyda rhai o griw bad achub Cricieth

Ydy'r tywydd stormus diweddar wedi achosi fwy o ddamweiniau yn eich ardal chi?

Mi fyddwn ni adeg tywydd gwael yn rhoi rhybuddion ar ein tudalen Facebook i atgoffa pobl i gadw ffwrdd o'r tonnau. Maen nhw'n gallu bod yn ddramatig i'w gweld, ond dydy pobl ddim yn sylweddoli y pŵer anhygoel sydd gan y don a'r cerrig sy'n cael eu cario gyda'r tonnau. Mae'n beryglus. Yn ffodus, fuodd na ddim byd yn ein ardal ni yn lleol oherwydd y stormydd.

Beth am blant bach, beth yw'r peryglon iddyn nhw?

Haf dwetha' wnaethon ni achub tri phlentyn oedd wedi cael eu cario allan o draeth Harlech, a'r flwyddyn gynt wnaethon ni achub chwech. Diolch byth 'dan ni wedi eu cyrraedd mewn pryd bob tro.

Mae'n siŵr bod galwadau yn dod ar eich traws yn gwbwl annisgwyl...

Mae gynnon ni pager, ac os wyt ti o fewn dalgylch lleol i'r orsaf, rwyt ti'n mynd. Y tro dwetha' i mi gael fy ngalw o'n i efo'r plant a doedd y wraig ddim adre, felly oedd yn rhaid mynd â'r plant gyda fi a'u gadael gyda'r staff yn siop yr RNLI wrth yr orsaf.

D'yn ni wedi cael sawl galwad yng nghanol nos, weithiau pobl ar goll a'r heddlu'n ein galw ni os maen nhw'n meddwl bod peryg bod rhywun wedi mynd i'r môr.

Os mae'r pager yn galw, dan ni'n mynd yn syth. Rydyn ni'n gweithio ar adrenalin ac i ffwrdd â ni, ond mae'n gallu bod yn anodd i'r teulu sydd ar ôl ar y lan, yn enwedig yng nghanol nos.

Sut effaith mae'r galwadau'n ei gael arnoch chi?

Dwi di cael sawl galwad pan dwi'n ganol torri'r lawnt neu rywbeth felly, wedyn dwi'n mynd a gadael popeth ac yna'n dod nôl i dorri'r gwair! Yn aml rydych chi'n rhuthro i ffwrdd i ddelio gyda rhywbeth anodd a wedyn nôl i fywyd domestig.

Mae 'na bedwar ohonon ni'n mynd allan yn y gwch, felly ar y ffordd yn ôl rydyn ni fel arfer yn trafod beth sy' wedi digwydd er mwyn ein helpu.

Image copyright RNLI

Beth yw'ch cyngor chi i bobl i arbed damweiniau?

Mi fedrai ddallt pan mae rhywun yn y feddylfryd gwyliau, dan ni ddim yn beirniadu pobl ond mi fyse rhywfaint o hyfforddiant neu feddwl o flaen llawn yn lleihau damweiniau. Mi fysen i'n annog pobl i gael sgiliau sylfaenol, gwybodaeth am amseroedd llanw a thrai o flaen llaw a ffactora hynny i mewn cyn mentro allan.

Y peth brafiaf i fi am y gwirfoddoli, yw pan mae rhywun sydd wedi cael eu hachub yn dod draw i weld y criw yn bersonol i ddiolch. Mae'n rhoi buzz.