Cleifion canser 'angen cymorth ariannol', medd elusennau

Arian Image copyright Getty Images

Mae dwy o elusennau canser mwyaf blaenllaw Cymru'n dweud bod cynnydd syfrdanol wedi bod yn nifer y bobl sydd yn gwneud cais am gymorth ariannol.

Dywed prif weithredwr Tenovous, Claudia McVie eu bod nhw yn wynebu "argyfwng".

Mae elusen arall, Macmillan, hefyd yn dweud eu bod dan bwysau.

"Mae'n bwysig ein bod yn gallu cael y cymorth i'r bobl hyn mor fuan â phosib er mwyn sicrhau bod y dyddiau olaf y rhai gorau o ran y claf a'r teulu," meddai Ms McVie.

Image caption Gall gleifion fod ar eu ar eu colled o £650 y mis ar ôl diagnosis, medd Lowri Griffiths

Dywedodd Lowri Griffiths o Macmillan bod gwaith ymchwil yn awgrymu bod cleifion o Gymru ar eu colled o £650 y mis unwaith iddyn nhw gael diagnosis o ganser.

"Un maes sy'n ein poeni yw colli cyflog oherwydd rhoi'r gorau i waith," meddai.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod byrddau iechyd wedi cael canllawiau ynglŷn â'r wybodaeth i roi i gleifion am gymorth ariannol.

Ychwanegodd bod Tenovus wedi derbyn cymhorthdal gan Lywodraeth Cymru er mwyn darparu gwasanaethu i roi cyngor ariannol i gleifion.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.