'Bygythiad' bydd clwy'r traed a'r genau yn dychwelyd i Gymru

traed a genau

Mae dau arbenigwr ar heintiau wedi rhybuddio y gallai clwy'r traed a'r genau ddychwelyd i Gymru oherwydd y niferoedd o bobl sy'n symud o Ogledd Affrica i gyfeiriad Ewrop ar hyn o bryd.

15 mlynedd wedi'r argyfwng diwethaf mae Dr. Dai Grove White -pennaeth adran da byw Coleg Milfeddygol Prifysgol Lerpwl - wedi deud wrth raglen materion cyfoes Manylu ar Radio Cymru fod y bygythiad yn un real iawn.

"Mae 'na berygl bob amser. Mae'r feirws dros y byd felly mi wnawn ni ei gael o eto - wn i ddim pa bryd ond yn sicr wnaiff o ddod rhyw dro."

"Fel 'da ni'n siarad rŵan mae o yng ngogledd Affrica - Algeria, Morocco, yr Aifft ac yn y Dwyrain Canol. Felly mae'n reit bosib iddo fo ddod i Ewrop ac unwaith mae o yn Ewrop mae'n gallu symud."

Image caption Dr Dai Grove White

Saith straen gwahanol

Tebyg ydi barn Cyfarwyddwr Sefydliad Pirbright yn Surrey - canolfan ymchwil fyd enwog i heintiau anifeiliaid gan gynnwys traed a'r genau.

Meddai'r Athro Bryan Charleston: "Be da ni yn ei weld ydi'r clwy yn lledaenu ar draws gogledd Affrica. Yn amlwg mae hynny'n fygythiad i dde Ewrop a hefyd mae 'na na lot o heintiau yn Nhwrci.

"Gan fod Twrci yn ffinio ar Ewrop mae'n rhaid inni fod yn ymwybodol o be ydi'r feirysau sydd yna a pha fath o feirysau - mae 'na 7 straen gwahanol o glwy'r traed a'r genau.

"Mae'n rhaid inni wybod pa straen allai fod yn fygythiad i Ewrop a Phrydain er mwyn inni allu rhoi'r cyngor cywir... ac yn benodol a oes 'na frechlyn ar gyfer y straen penodol yna"

Dysgu gwersi?

Ond a fyddai Cymru a Phrydain yn gallu ymateb a rheoli'r clwy yn well na'r hyn ddigwyddodd yn 2001?

Bryd hynny fe gadarnhawyd dros ddwy fil o achosion o'r clwy ym Mhrydain tros gyfnod o wyth mis. Roedd cost y cyfan yn £8 biliwn o bunnau i'r sector cyhoeddus a'r sector preifat.

Mae cyn-lywydd Undeb Amaethwyr Cymru Bob Parry'n yn dweud bod y cyfyngiadau ar symud anifeiliaid sydd bellach mewn grym yn gam ymlaen ond mae'n amau a fyddai'r awdurdodau yn ymateb yn gynt nag yn 2001.

"Dwi'n meddwl mai'r wers bwysicaf ydi bod yn barod," meddai, "ond ydyn nhw wedi dysgu hynny?

"Mae 'na reolau maen nhw wedi eu rhoi mewn lle a dwi'n mawr obeithio y basa nhw yn gweithredu ar hynny pe bai'r un peth yn digwydd eto. Ond dwi'n reit bryderus pe basa fo'n digwydd - y teimlad dwi'n ei gael ydi mai panic fasa 'na. "

Image caption Fel cyn lywydd Undeb Amaethwyr Cymru, roedd Bob Parry yng nghanol trafferthion 2001

Sustem newydd

Gwrthod y feirniadaeth mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones. Y fo oedd Ysgrifennydd Amaeth Cymru yn 2001.

"Beth ffindo ni yn 2001 - doedd 'na neb â phrofiad o ddelio gyda clwy traed a'r genau," meddai.

"Roedd rhai yn cofio'r clwy yn '68 ond roedd amaeth wedi newid yn gyfan gwbl ac anifeiliaid yn symud llawer ymhellach na '68 a'r potensial i ledu'r clwy llawer yn waeth.

"Nawr ma' gyda ni sustem i stopio'r clwy rhag lledu - sef y rheol chwe diwrnod - a mi fydde ni yn cau lawr symudiadau anifeiliaid cyn gynted â phosib ar ôl yr achos cyntaf.

"Ma' 'da ni hefyd system i wybod ble mae'r defaid - oedd dim ID ar gael yn 2001 - roedd hynny yn wendid mawr o ran gwbod ble roedd defaid wedi mynd."

Mi ychwanegodd mai newid mawr arall oedd bod gan lywodraeth Cymru lawer mwy o rym a chyfrifoldeb dros iechyd anifeiliaid rŵan o gymharu â 2001.

Bydd rhaglen Manylu yn cael ei darlledu ar Radio Cymru am 12:30 ddydd Iau, 18 Chwefror.