Cwest: Dyn wedi ei wasgu i farwolaeth gan beiriant

Siambr Cyngor Arfon Image copyright Google
Image caption Cafodd y cwest ei gynnal yn siambr hen Gyngor Arfon

Mae cwest wedi clywed sut cafodd dyn 23 oed ei wasgu i farwolaeth ar safle busnes ei deulu.

Bu farw John Eric Lloyd, o Ddolgellau, ar ôl i fraich peiriant trwm syrthio arno ym mis Awst y llynedd.

Mae'r cerbyd yn cael ei ddefnyddio i lwytho a dadlwytho sgipiau.

Dywedodd ei chwaer, Sharon, a welodd y digwyddiad: "Dywedais wrtho am fynd oddi yno."

Yn ôl tad John, Alun Lloyd, byddai ei fab yn gwybod i beidio mynd o dan y cerbyd heb osod offer diogelwch pwrpasol yn ei lle. "Allai ddim deall pam wnaeth o hynny," meddai.

Mae'r cwest yng Nghaernarfon yn parhau.