Tân mewn ffatri yng Nghyffordd Llandudno

tan

Mae nifer o adeiladau wedi cael eu gwagio wrth i ddiffoddwyr fynd i'r afael â thân mewn canolfan golchi dillad masnachol yn Sir Conwy.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i safle Express Linen Services ar Ffordd y Dyffryn, yng Nghyffordd Llandudno, ychydig cyn 19:30 nos Iau.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod dyn wedi cael ei drin ar y safle am effeithiau anadlu mwg.

Mae'r heddlu hefyd wedi gofyn i bobl osgoi'r ardal.

Mae to'r adeilad wedi llosgi'n wenfflam, ac mae adroddiadau'n lleol fod cwmwl mawr o fwg yn gorchuddio'r ardal gerllaw.