Tân Cyffordd Llandudno: Diffoddwyr yn parhau ar y safle

Tân Cyffordd Llandudno
Image caption Mae dau griw yn parhau ar y safle fore Gwener

Mae diffoddwyr yn parhau ar safle canolfan golchi dillad masnachol yn dilyn tân nos Iau.

Mae 12 o ddiffoddwyr yn parhau i chwistrellu dŵr ar safle Express Linen Services ar Ffordd y Dyffryn yng Nghyffordd Llandudno.

Ar un adeg, bu 40 o ddiffoddwyr yn brwydro yn erbyn y fflamau, ddechreuodd am tua 19:30 nos Iau.

Cafodd naw o adeiladau eu gwagio oherwydd mwg, tra bo un dyn wedi'i drin ar y safle am effeithiau anadlu mwg.

Bydd ymchwiliad i achos y tân yn cael ei gynnal ar y cyd rhwng y gwasanaeth tân a'r heddlu.

Mae criwiau'n gweithio gyda Scottish Power i adfer cyflenwad i'r ardal fel y gall pobl ddychwelyd i'w cartrefi.

Straeon perthnasol