Cyfyngu cyflymder i 30mya yn Abertawe wedi damweiniau

ffordd caerfyrddin Image copyright Google

Bydd cyfyngiad cyflymder o 30mya yn cael ei osod ar un o brif ffyrdd Abertawe, ar ôl mwy na 100 o ddamweiniau dros gyfnod o dair blynedd.

Ffordd Caerfyrddin yw un o'r prif lwybrau i mewn i ganol y ddinas, o gyffordd 47 yr M4, ac mae gan rannau o'r ffordd gyfyngiad o 40mya.

Ond mae cyngor Abertawe wedi gweithredu mewn ymgais i leihau nifer y damweiniau a marwolaethau.

Yn ogystal â lleihau'r cyflymder, mae camerâu hefyd yn cael eu gosod wrth y cyffyrdd.