Gweilch 27-13 Caeredin

Image copyright Huw Evans picture agency

Gweilch 27-13 Caeredin

Mae'r Gweilch wedi llwyddo i ddringo i mewn i'r chwech uchaf yn y Pro12, yn dilyn buddugoliaeth galed dros Gaeredin.

Roedd yr Albanwyr ar y blaen o 13-6 ar un adeg o'r gêm, diolch i gais gan y prop Alan Dell.

Ond fe lwyddodd pwyntiau gan Sam Underhill i lefelu'r sgôr, cyn i Sam Davies ennill cyfres o giciau cosb yn yr ail hanner, a chais hwyr gan Scott Otten selio buddugoliaeth y tîm cartref.

Treuliodd blaenasgellwr Cymru Dan Lydiate amser yn y gell cosb.

Mae buddugoliaeth Glasgow yn erbyn Munster yn golygu bod y Gweilch yn camu 'mlaen yn y tabl.