Ulster 20-21 Scarlets

Scarlets Image copyright Press Eye

Mae'r Scarlets wedi cipio buddugoliaeth bwysig i ffwrdd yn Ulster yn y Pro12 gyda Michael Collins yn sgorio dau gais yn yr hanner cyntaf.

Cafodd y cefnwr y gyntaf ar ôl pum munud, ond fe darodd Ulster yn ôl diolch i gais Craig Gilroy.

Luke Marshall groesodd am ail gais y tîm cartref ac roedd Ulster ar y blaen o 17-15 hanner amser.

Ond bu dau gic cosb gan Aled Thomas yn yr ail hanner yn ddigon i sicrhau'r fuddugoliaeth i'r Scarlets.

Mae'r canlyniad yn golygu eu bod dau bwynt tu ôl Connacht sydd ar y brig.