Tai haf: Cynghorau'n ystyried treth newydd

Cei Newydd

Mae BBC Cymru wedi darganfod fod pob un o'r saith cyngor yng Nghymru lle mae nifer sylweddol o dai haf yn ystyried cyflwyno treth newydd arnynt.

Yn yr ardaloedd dan sylw, yr amcangyfrif yw bod tua 16,000 o dai haf.

Bwriad y cynghorau yw defnyddio cymal newydd yn y Ddeddf Tai, sy'n dod i rym fis Ebrill, i alluogi i awdurdodau lleol i godi tâl ychwanegol ar ben treth y cyngor ar dai haf.

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod y pŵer i godi treth ychwanegol yn "cydnabod yr effaith sylweddol y mae tai haf yn gallu ei gael ar gynaliadwyedd cymunedau lleol Cymru".

Mae tŷ haf yn cael ei ddiffinio fel eiddo sydd ddim yn brif gartref ond sydd â dodrefn ynddo.

Yn y saith sir lle mae'r nifer fwyaf o dai haf, yr amcangyfrif yw bod cyfanswm o 15,846 ohonynt:

  • Gwynedd - 4,815
  • Sir Penfro - 3,000
  • Ynys Môn - 2,300
  • Ceredigion - 2,018
  • Conwy - 1,513
  • Powys - 1,200
  • Sir Gaerfyrddin - 1,000
Image copyright Google
Image caption Mae Aberdaron yn bentref sy'n gweld nifer fawr o ymwelwyr dros fisoedd yr haf

Mae ymgynghoriad gan Gyngor Sir Penfro ar gynllun i ychwanegu tâl o hyd at 100% o dreth y cyngor ar dai haf yn dod i ben ddydd Llun.

Mae 3,000 o dai haf yn y sir, un o'r ffigyrau uchaf yng Nghymru, a'r gred yw bod hyd at 20% o dai mewn rhai ardaloedd yn dai haf.

Yng Ngheredigion, lle mae ychydig dros 2,000 o dai haf, mae'r cyngor hefyd yn cynnal ymgynghoriad.

Bydd cynghorau Gwynedd, Ynys Môn, Conwy, Powys a Sir Gaerfyrddin hefyd yn ystyried codi tâl ychwanegol i dreth y cyngor.

Llai o arian?

Ym Mhowys, bydd y cyngor yn ystyried "treth" tai haf o 30% neu 50%, ond bydd rhaid penderfynu cyn diwedd y flwyddyn ariannol yma os ydyn nhw am i'r dreth ddod i rym ym mis Ebrill 2017.

Er bod bron i 5,000 o dai haf yng Ngwynedd, mae'r cyngor yn pryderu y gallai'r newid olygu bod y cyngor yn derbyn llai o arian mewn trethi.

Mae adroddiad i'r cyngor yn nodi y gallai'r newid greu "incwm ychwanegol sylweddol", ond yn rhybuddio y gallai arwain at fwy o bobl yn ceisio cofrestru tai haf fel busnesau a'u rhentu allan am gyfnod o'r flwyddyn.

Yn ogystal ag osgoi'r dreth ychwanegol, byddai hynny'n galluogi i berchnogion wneud cais am gymhorthdal busnesau bach o 50% o drethi busnes.

Mae'r adroddiad yn dweud bod angen i'r cyngor ymchwilio i ganlyniadau'r dreth ychwanegol cyn bwrw 'mlaen.

Image caption Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod y pwerau'n cydnabod "effaith sylweddol" tai haf ar gymunedau

Mae Cyngor Sir y Fflint eisiau defnyddio'r un ddeddf i godi tal ychwanegol ar dai gwag, a lleihau'r nifer o gartrefi sydd ddim yn cael eu defnyddio yn y sir.

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod y pŵer i godi treth ychwanegol yn "cydnabod yr effaith sylweddol y mae tai haf yn gallu ei gael ar gynaliadwyedd cymunedau lleol Cymru".

"Mae'r gallu i godi tal ar dai haf yn cynnig ffordd ymarferol i gynghorau ddefnyddio'r system dreth i sicrhau bod tai haf yn cyfrannu'n deg i dalu am wasanaethau lleol a thai fforddiadwy, yn enwedig mewn rhannau gwledig o Gymru.

"Bydd yr angen am daliadau ychwanegol yn cael ei ystyried ar sail lleoliadau penodol, a bydd unrhyw incwm ychwanegol yn cael ei ail-fuddsoddi i mewn i wasanaethau lleol."