Llywodraeth Cymru'n herio'u Safonau Iaith eu hunain

Parc Cathays

Mae wedi dod i'r amlwg fod Llywodraeth Cymru yn herio eu Safonau Iaith eu hunain.

Cafodd y safonau eu hysgrifennu gan Gomisiynydd y Gymraeg, ond fe gawson nhw eu hailddrafftio'n llwyr gan weinidogion Llywodraeth Cymru.

Yn ôl y llywodraeth, maen nhw wedi ymrwymo i weithredu'r Safonau ond eu bod wedi penderfynu herio rhai ohonyn nhw ar ôl eu hystyried yn ofalus.

Mae'r Safonau yn amlinellu'r rheolau y dylai cyrff cyhoeddus yng Nghymru gadw atyn nhw o ran darparu gwasanaethau a deunydd yn yr iaith Gymraeg i'r cyhoedd ac aelodau staff.

Roedd y Cynulliad wedi cymeradwyo safonau'r Iaith Gymraeg yn unfrydol y llynedd.

Comisiynydd y Gymraeg sy'n penderfynu pa Safonau y mae'n rhaid i gyrff gydymffurfio â nhw.

Dwy o'r safonau

Ond mae rhaglen y Post Cyntaf ar Radio Cymru wedi darganfod bod 'na oedi wrth gyflwyno dwy o'r Safonau a osododd Llywodraeth Cymru, a hynny wedi i weinidogion eu herio.

Y Safonau sy'n achosi pryder i weinidogion yw rhifau 40 ac 144.

Mae Safon 40 yn galw am sicrhau fod pob deunydd sy'n cael ei gynhyrchu ar gyfer y cyhoedd ar gael yn Gymraeg. Mae'r llywodraeth yn dweud bod dogfennau yn cael eu blaenoriaethu er mwyn gwneud y defnydd gorau o adnoddau.

Galw ar i bob cyhoeddiad cyhoeddus yn adeiladau'r llywodraeth fod yn Gymraeg mae safon 144. Mewn achosion ble mae'r cyhoeddiad yn ddwyieithog, fe ddylai fod yn Gymraeg gynta'. Mae'r llywodraeth eisiau eithrio cyhoeddiadau brys am resymau diogelwch.

Dywedodd Llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Aethom ati i groesawu'r rhestr derfynol o Safonau'r Gymraeg a osodwyd ar Weinidogion Cymru ac rydym wedi ymrwymo'n llwyr i'w gweithredu.

"Ar ôl ystyried goblygiadau gweithredu'r safonau yn ofalus, rydym wedi penderfynu herio Comisiynydd y Gymraeg o safbwynt dwy o'r 164 o safonau, sef Safon 40 a Safon 144. Rydym yn aros am ymateb y Comisiynydd."

'Testun cywilydd'

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi beirniadu penderfyniad gweinidogion i herio'u Safonau eu hunain yn hallt.

Meddai llefarydd ar eu rhan: "Dylai fod yn destun cywilydd bod y Llywodraeth yn herio dyletswyddau y cafodd eu llunio a'u cyflwyno ganddyn nhw eu hunain i'r Cynulliad.

"Byddwn ni'n gwrthwynebu'r ceisiadau hyn i wanhau hawliau iaith pobl, ac yn ystyried ein hawliau i ymyrryd yn gyfreithiol yn erbyn Llywodraeth Cymru a chyrff eraill. Byddwn ni'n sefyll lan dros bobl er mwyn sicrhau eu hawliau dynol, eu hawliau i'r Gymraeg."

Bydd y Comisiynydd nawr yn ystyried yr apêl ac yn penderfynu a ydy'r gofynion yn y Safonau dan sylw yn "afresymol".

Dywedodd llefarydd ar ran Meri Huws: "Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi derbyn cais am ddyfarniad gan Weinidogion Cymru o dan adran 54 Mesur y Gymraeg. Ni fyddai'n briodol i'r Comisiynydd wneud sylw hyd nes bod y broses o ddyfarnu wedi ei chwblhau."

Straeon perthnasol