Wrecsam 2-0 Kidderminster Harriers

Kayden Jackson Image copyright Rex Features

Mae Wrecsam wedi codi i safleoedd y gemau ail gyfle yn y Gynghrair Genedlaethol ar ôl trechu Kidderminster Harriers i sicrhau eu trydedd fuddugoliaeth yn olynol.

Fe wnaeth Kayden Jackson gymryd mantais o gamgymeriad gan Kelvin Longmead i sgorio ei gôl gyntaf i'r clwb o ogledd Cymru ar ôl 14 munud.

Llwyddodd i ddyblu mantais y tîm cartref cyn hanner amser wrth iddo rwydo o groesiad Lee Fowler.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod Wrecsam yn ddiguro mewn chwe gêm ac yn codi i'r pedwerydd safle yn y Gynghrair Genedlaethol.