Abertawe'n helpu yn y frwydr yn erbyn firws Zika

Dr Miranda Whitten a'r Athro Paul Dyson Image copyright Prifysgol Abertawe
Image caption Mae Dr Miranda Whitten a'r Athro Paul Dyson yn rhan o'r tîm o Abertawe

Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn credu y gall newid genynnau bacteria sy'n byw mewn pryfaid fod yn allweddol i drechu firws Zika.

Mae ymchwil gafodd ei gyhoeddi gan y Gymdeithas Frenhinol yn disgrifio defnyddio bacteria i ladd rhai genynnau tu fewn i bryfaid.

Gall hyn reoli poblogaethau pryfaid sy'n peryglu pobl neu gnydau.

Mae'r Athro Paul Dyson o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi ei alw'n "ddatblygiad sylweddol".

Image copyright AFP/Getty Images

"Mae'r bacteria'n rhyddhau'r wybodaeth ac mae'n cael ei amsugno i'r gwaed ac wedyn yn ymestyn trwy gorff y pry," eglurodd yr Athro Dyson.

Mae'r tîm o Abertawe eisoes wedi bod ym Mrasil ac maen nhw'n gobeithio defnyddio'r dechneg ar fosgitos Aedes, sy'n cario firws Zika.

Credir bod yr haint wedi arwain at filoedd o fabanod yn cael eu geni gydag ymennydd sydd heb ddatblygu.