Canolfan yn 'bennod newydd i'r iaith' yng Nghaerdydd

Yr hen lyfrgell

Mae Canolfan Gymraeg newydd yng Nghaerdydd yn ddechrau "pennod newydd i'r iaith yn y ddinas" meddai arweinydd y cyngor.

Gobaith y Cynghorydd Phil Bale yw y bydd y ganolfan, sydd yn agor ei drysau ddydd Iau, yn un ffordd o wneud i bobl deimlo'n gyffyrddus yn defnyddio'r Gymraeg a gwneud yr iaith yn fwy gweledol.

Mae'r ganolfan wedi ei lleoli yn yr Hen Lyfrgell ochr yn ochr ag Amgueddfa Stori Caerdydd yn yr Aes.

Dywedodd bod y syniad o greu'r ganolfan wedi cychwyn ar ôl cynnal cyfarfod gyda mudiadau yn y ddinas.

"Mi oedd hi'n glir iawn bod yna fwlch o ran yr angen i gael ryw ganolbwynt neu wagle cymdeithasol canolog yn y ddinas lle y gallai'r iaith ffynnu, lle gallai pobl oedd yn dysgu Cymraeg neu oedd eisiau ymweld â Chaerdydd ddysgu mwy am yr iaith."

Tu mewn i'r adeilad mae 'na gaffi, siop lyfrau, ystafelloedd dysgu, mannau perfformio ac ystafelloedd cynadledda. Ymhlith y partneriaid sydd yn ymwneud â'r fenter mae Prifysgol Caerdydd, Mudiad Meithrin, Clwb Ifor Bach a Menter Caerdydd.

Canolfan i bawb

Mae nawdd datblygu wedi ei roi gan Lywodraeth Cymru ac mi fydd y partneriaid yn talu rhent i'r Cyngor am logi'r adeilad. Ond y nod ydy bod y ganolfan yn dod yn hunangynhaliol meddai arweinydd y cyngor.

"Y bwriad o'r cychwyn yw bod y partneriaid yn gweithio i adnabod ffynonellau o gyllid. Maen nhw wedi sefydlu rhwydwaith ffrindiau lle maen nhw'n gofyn am £5 neu £10 y mis o gyfraniad ac am hynny mae'r cwsmeriaid yn cael gostyngiadau ychwanegol."

Yn ôl Phil Bale, nid canolfan jest i'r Cymry Cymraeg yw hon. "Mae hi yno ar gyfer unrhyw un a phawb sydd eisiau ymwneud â hanes yr iaith, sydd eisiau cymdeithasu yn yr iaith."

Mae'n dweud ei fod wedi siarad gyda rhai di-Gymraeg sydd â phartneriaid Cymraeg sydd yn gyffrous am y lle. "Mae hynny'n beth da. Mi ydyn ni eisiau torri lawr rhwystrau ymddangosiadol rhwng gwahanol ieithoedd ac mi fydd y ganolfan, dw i'n gobeithio, yn chwarae rhan yng ngwneud hynny yn y ddinas."