Ynni Cymunedol Cymru
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Croesawu dwy fenter hydro bychan ond dim digon ar waith

25 Chwefror 2016 Diweddarwyd 21:36 GMT

Tra'n croesawu dwy fenter hydro bychan yn Eryri, mae Ynni Cymunedol Cymru wedi cyfaddef nad oes cynifer ag yr oedden nhw wedi'i obeithio o brosiectau tebyg ar waith.

Bydd cynlluniau Ynni Ogwen ac Ynni Padarn Peris yn ychwanegu at y 15 sy'n bodoli yng Nghymru'n barod.

Maen nhw'n brosiectau lle bo cymunedau'n mynd ati i gynhyrchu ynni adnewyddol at eu dibenion eu hunain. Dafydd Gwynn sydd â'r stori.