Dreigiau 15-18 Glasgow

rygbi Image copyright Rex Features
Image caption Duncan Weir gafodd y cais allweddol i Glasgow

Mae Glasgow wedi codi i'r pumed safle yn y Pro12 ar ôl cipio buddugoliaeth o drwch blewyn yn erbyn y Dreigiau.

Duncan Weir gafodd y cais allweddol i'r ymwelwyr gyda saith munud yn weddill gyda Josh Strauss hefyd yn cicio wyth pwynt.

Alex Dunbab gafodd y cais arall cyn hanner amser.

Daeth holl bwyntiau'r Dreigiau o giciau cosb y maswr ifanc, Angus O'Brien.