Yr Athro Gwyn Thomas wedi marw yn 79 oed

gwyn thomas Image copyright S4C

Bu farw'r bardd, Yr Athro Gwyn Thomas yn 79 oed.

Ganed ym Mlaenau Ffestiniog ym 1936 a chafodd ei addysg yn Ysgol Sir Ffestiniog, Coleg yr Iesu, Rhydychen ac yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor.

Yn ddiweddarach bu'n bennaeth ar yr Adran Gymraeg ym Mangor, hyd nes ei ymddeoliad.

Mae nifer o Gymry amlwg wedi rhoi teyrnged i Gwyn Thomas ar lif byw Cymru Fyw dydd Iau.

Y Mabinogion

Roedd yn gyfrifol am gyfieithiad o straeon y Mabinogion i'r Saesneg ar y cyd â'r academydd Kevin Crossley-Holland.

Ef hefyd wnaeth addasu straeon y Mabinogion ar gyfer cyfres wedi'i hanimeiddio ar S4C yn 2002.

Yn academydd o'r radd flaenaf, roedd Gwyn Thomas hefyd yn ysgrifennu i blant.

Yn ddiweddar cyhoeddodd - yn y Gymraeg a'r Saesneg - lyfr yn dilyn hanes y Brenin Arthur.

Enillodd dair gwobr Tir na n-Og gan Gyngor Llyfrau Cymru - ar y cyd â Margaret Jones - am lyfrau plant gorau'r flwyddyn (Culhwch ac Olwen yn 1989, Chwedl Taliesin yn 1993, a Stori Dafydd ap Gwilym yn 2004).

Fel bardd, cyhoeddodd 16 cyfrol o farddoniaeth - yr un gyntaf, Chwerwder y Ffynhonnau, yn 1962.

Image copyright Llenyddiaeth Cymru

Mae wedi cyhoeddi sawl cyfrol o draethodau, beirniadaethau a chyfieithiadau gan gynnwys y llyfr arloesol, Y Traddodiad Barddol - astudiaeth ddofn o draddodiadau barddonol Cymru.

Yn 2006, fe gyhoeddodd ei hunangofiant, Bywyd Bach, fel rhan o Gyfres y Cewri.

Byd y ffilm

Fel cefnogwr brwd o'r diwydiant ffilmiau yng Nghymru, roedd Gwyn Thomas awyddus i arloesi yn y maes hwnnw.

Ef oedd yn gyfrifol am ddatblygu technegau arloesol yn cyfuno barddoniaeth a ffilm, a cheir enghraifft gynnar o'r gwaith hwn yn ei gerdd ar gyfer y teledu, Cadwynau yn y Meddwl, oedd wedi'i hysgrifennu ar gyfer Martin Luther King.

Ymddangosodd wrth ochr actorion a cherddorion rhyngwladol o Gymru - gan gynnwys Ioan Gruffudd, Matthew Rhys a John Cale - yn y ffilm Dal Yma: Nawr yn 2001.

Bu Gwyn Thomas yn Fardd Cenedlaethol Cymru o 2006-2008. Cyhoeddwyd cyfrol newydd o farddoniaeth gan Barddas yn 2010, ac roedd hefyd yn Gymrawd yr Academi Gymreig.

Bu hefyd yn westai ar ddwy raglen arbennig o Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru yn 2015.

Dywedodd yr Athro Gerwyn Wiliams, Pennaeth Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor: "Mae Cymru wedi colli un o'i phrif feirdd ac un o'i hysgolheigion uchaf ei barch.

"Gwnaeth yr Athro Gwyn Thomas gyfraniad enfawr i Brifysgol Bangor, a bydd colled ar ei ôl gan bawb a oedd yn ei adnabod yn y Brifysgol a chan ei gydweithwyr yn Ysgol y Gymraeg yn arbennig.

"Fe wnaeth gyfraniad enfawr i lenyddiaeth Gymraeg ac i'r maes academaidd. Yn ddiamau Gwyn Thomas oedd un o feirdd pwysicaf ail hanner yr ugeinfed ganrif yng Nghymru, gan ei fod yn fardd mor arloesol.

"Bu'n darlithio yn Ysgol y Gymraeg ers ei benodiad ym 1963 hyd ei ymddeoliad fel Athro'r Gymraeg yn 2000. Roedd ei gyfraniad yn ymestyn y tu hwnt i ffiniau academaidd i gynulleidfa eang, ac yn aml gan ddefnyddio cyfryngau eraill fel ffilm a theledu.

"Fe gyhoeddodd Gwyn Thomas ei gyfrol olaf tra oedd ar dir y byw, Llyfr Gwyn, y llynedd, ac mae'n sôn ynddo am yr holl ddylanwadau a fu arno. Roedd felly'n gynhyrchiol ac yn greadigol hyd y diwedd un.

"Mae'r Ysgol a'r Brifysgol yn estyn ei chydymdeimlad i'w weddw, ei blant, ei deulu a'i holl gyfeillion yn eu colled."

'Gwreiddioldeb'

Dywedodd Gwyneth Lewis, y bardd wnaeth ragflaenu Gwyn Thomas fel Bardd Cymru, ei fod yn ddyn yn llawn "gwreiddioldeb".

"O ran ei waith beirniadol mae e'n un sydd wedi coleddu'r traddodiad Cymraeg ac eto, o fewn hwnna, mae e fel bardd wedi agor ffordd newydd o farddoni yn Gymraeg," meddai.

"Mae e wedi rhoi goslef newydd i farddoniaeth Cymraeg. Oedd 'na hiwmor yna, ond nid bardd comic oedd e, bardd dwys oedd yn defnyddio comedi, oedd yn defnyddio hiwmor.

"Roedd e'n 'sgolor yn yr hen draddodiad Cymraeg ac, ar yr un pryd, roedd e'n llais ffres - dyna oedd ei gamp fawr e i mi.

"O'n i wastad yn ffeindio fe'n berson cynnes, cefnogol a hefyd yn ddyn oedd - er ei fod e'n academydd ac yn fardd - yn uniongyrchol iawn ei iaith ac yn gweld pethau gyda llygaid clir iawn."

Cricedwr dawnus

Mae'r Athro Derec Llwyd Morgan yn cofio ei gyfaill fel cricedwr dawnus.

"Roedd o'n gricedwr ardderchog yn ei ddydd," meddai. "Mi sefydlon ni, yn y saithdegau, dîm criced yr adran Gymraeg ym Mangor, a Gwyn oedd y bowliwr cyflymaf.

"Dwi'n ei gofio fo'n torri bawd rhyw fatiwr. Pethau fel 'na mae dyn yn cofio.

"Ond yn ogystal â bod yn gricedwr da, roedd hefyd yn un o feirdd mwyaf gwreiddiol yr ugeinfed ganrif a'r unfed ganrif ar hugain."

"Mi ddatblygodd Gwyn ryw arddull doedd neb arall wedi ei ddatblygu," ychwanegodd.

Mae'r Prifardd Meirion MacIntyre Huws wedi sôn am y "fraint o gael sgwrsio am y byd a'i bethau" gyda Gwyn Thomas ar sawl achlysur.

"Roedd yn athro craff ac yn ysgolhaig arbennig, ond sgwrs gyda dyn cyffredin, dyn oedd â'i draed ar y ddaear ges i bob tro, nid sgwrs academaidd, athronyddol, er mai pethau academaidd ac athronyddol yn aml oedd testun y sgwrs," meddai.

"Mae ein gwlad a'i thraddodiad barddol yn dlotach o lawer heddiw. Un o'r adar cyffredin, a'r un pryd yn dderyn prin."

'Colli cawr arall'

Bu'r cerddor Gai Toms yn cydweithio â Gwyn Thomas fel rhan o gyfres BBC Radio Cymru, Yma Wyf Finnau i Fod, dywedodd wrth Cymru Fyw fod "Cymru wedi colli cawr arall".

"Roedd Gwyn yn berson addfwyn iawn, ac yn falch iawn o'i fro enedigol," meddai.

"Roedd yn fraint cael gweithio efo fo ar y gân arbennig ar gyfer rhaglen Yma Wyf Finnau i Fod. Mi fydd y profiad o weithio efo fo yn aros efo fi am byth.

"Bydd colled fawr ar ei ôl a 'dwi'n cydymdeimlo'n fawr efo'r teulu."

Mae Gwyn Thomas yn gadael gweddw a thri o blant.